(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn rhannol o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) ac yn rhannol o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“Deddf 2002”). Sefydlodd Deddf 2000 system reoleiddio newydd ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru; mae adran 8(3) o Ddeddf 2002 yn diwygio Deddf 2000 ac effaith hynny yw na chaiff person redeg na rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu heb fod wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000. Mae Deddf 2002 yn darparu pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr awdurdod cofrestru, i reoleiddio asiantaethau cymorth mabwysiadu. Bydd rhaid i asiantaeth sy'n gwneud cais i'r awdurdod cofrestru am gael ei chofrestru o dan Ddeddf 2000 ddangos ei bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cofrestru.

Mae adran 2(6) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cwnsela, cyngor a gwybodaeth ac unrhyw wasanaethau eraill a ragnodir drwy reoliadau, mewn cysylltiad â mabwysiadu, yn wasanaethau cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gwasanaethau sy'n wasanaethau cymorth mabwysiadu at ddibenion y rheoliadau hyn.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant. Rhaid bod gan bob asiantaeth cymorth mabwysiadu ddatganiad o ddiben sy'n nodi beth yw nodau ac amcanion yr asiantaeth. Rhaid cadw golwg ar y datganiad o ddiben a'i adolygu pan fo angen. Rhaid i'r asiantaeth gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben. Rhaid i asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau i blant gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth sy'n addas i blant.

Mae rheoliadau 5 i 9 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r personau sy'n rhedeg ac yn rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaeth enwebu unigolyn cyfrifol i oruchwylio gwaith rheoli'r asiantaeth.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwr gael ei benodi ar gyfer yr asiantaeth. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer ffitrwydd y rheolwr, yn benodol drwy'r gofyniad bod rhaid sicrhau gwybodaeth foddhaol o ran y materion a bennir yn Atodlen 2 (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn gosod gofynion cyffredinol o ran rheoli asiantaeth cymorth mabwysiadu yn briodol, a'r angen am hyfforddiant priodol. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn cyfrifol a'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru o gollfarnau.

Mae rheoliadau 10 — 15 yn ymdrin â cheisiadau am wasanaethau cymorth mabwysiadu sy'n helpu'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas i gael gwybodaeth neu i hwyluso cyswllt. Nid yw rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu gwasanaethau o'r fath pan fernir ei bod yn amhriodol ac mae'n nodi'r ffactorau y dylai'r asiantaeth eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth gael cydsyniad deallus gwrthrych y cais cyn datgelu gwybodaeth amdano a fyddai'n dangos pwy ydyw neu a fyddai'n galluogi'r person sy'n gofyn am yr wybodaeth i olrhain y gwrthrych hwnnw. Mae rheoliad 13 yn galluogi'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas i gofrestru feto gyda'r asiantaeth. Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth i wybodaeth gefndir gael ei datgelu pan fo cais am gydsyniad wedi'i wrthod. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ddarparu gwybodaeth am gwnsela a sicrhau gwasanaethau cwnsela o ran ceisiadau am wasanaethau cymorth mabwysiadu o'r fath o dan reoliad 2(d) neu (dd). Rhaid i asiantaethau cymorth mabwysiadu eu hunain roi cymorth a chefnogaeth i berson sy'n wrthrych cais gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas am wybodaeth neu gyswllt os bydd y person yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela.

Mae rheoliadau 16 i 26 yn gwneud darpariaeth ynglyn â'r dull o reoli asiantaeth cymorth mabwysiadu, yn benodol ynghylch amddiffyn plant (rheoliad 16), darparu gwasanaeth sy'n briodol i anghenion defnyddiwr (rheoliad 17), cadw cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau sy'n cael eu darparu (rheoliad 18), cwynion (rheoliadau 19 a 20), staffio (gan gynnwys cadw cofnodion ynglyn â staff) a ffitrwydd y staff a'r fangre (rheoliadau 21 i 26).

Mae rheoliad 27 yn darparu bod y darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig i hysbysu'r personau a bennir yn Atodlen 4 o'r digwyddiadau a ddisgrifir yn yr Atodlen honno. Mae rheoliad 28 yn gosod gofynion sy'n ymwneud â sefyllfa ariannol asiantaeth cymorth mabwysiadu. Mae rheoliadau 29 i 31 yn darparu ar gyfer hysbysu'r awdurdod cofrestru a phenodi datodwyr. Mae rheoliad 32 yn darparu ar gyfer tramgwyddau sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau yn y rheoliadau neu ar gyfer methiant i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.

Pan fo'r rheoliadau hyn yn gosod gofyniad ar fwy nag un person, a bod un o'r rhai sy'n gorfod bodloni'r gofyniad hwnnw yn gwneud hynny, mae rheoliad 33 yn darparu nad yw'r person arall hefyd yn gorfod bodloni'r gofyniad hwnnw. Mae rheoliad 34 yn diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002. Mae rheoliad 35 yn darparu ynglŷn â'r trefniadau trosiannol ar gyfer cofrestru asiantaethau cymorth mabwysiadu.