Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan Ddeddf Addysg 2002, yn darparu ar gyfer datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir sydd yn y cyfnod allweddol cyntaf ac sy'n cymryd rhan yng nghynllun treialu'r cyfnod sylfaen, (a elwir y foundation stage yn Lloegr ond yn foundation phase yng Nghymru).