ATODLEN 2F1Y Weithdrefn Apelio

Annotations:

Apelau a wneir yn unol ag adran 95 o Ddeddf 1998I12

1

Yn y paragraff hwn ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(d).

2

Pan fydd unrhyw benderfyniad a grybwyllir yn adran 95(2) wedi'i wneud gan yr F2awdurdod addysg lleol neu ar ei ran, rhaid i'r awdurdod hysbysu corff llyworaethu'r ysgol yn ysgrifenedig am —

a

y penderfyniad hwnnw; a

b

hawl y corff llywodraethu i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol ag is-baragraff (3).

3

Rhaid i unrhyw apêl gan y corff llywodraethu yn erbyn unrhyw benderfyniad cael ei gwneud dim hwyrach na'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan hysbysir ef o dan is-baragraff (2).

4

Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.

5

Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar unrhyw ddyddiad y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei benderfynu ond rhaid i'r dyddiad a benderfynir beidio â bod ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan fydd yr awdurdod hwnnw yn derbyn yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan hysbysiad is-baragraff (4).

6

Ar apêl rhaid i'r panel ganiatáu —

a

i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu wneud sylwadau ysgrifenedig;

b

i un o swyddogion yr awdurdod a enwebir gan yr awdurdod, a llywodraethwr a enwebir gan y corff llywodraethu, ymddangos a gwneud sylwadau llafar; ac

c

i'r corff llywodraethu gael ei gynrychioli.

7

Rhaid i apelau gael eu gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn cyfarwyddo fel arall; ond —

a

os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad o apêl gan banel apêl; a

b

caiff un aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod o banel apêl sy'n ystyried apêl.

8

Caniateir cyfuno dwy neu ragor o apelau ac ymdrin â hwy yn yr un achos os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwylus oherwydd mai'r un rhai yw'r materion a godir gan yr apelau neu oherwydd eu bod yn gysylltiedig.

9

Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

10

Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei wneud—

a

yn ysgrifenedig i'r F2awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu; a

b

erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ysgol ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.

11

Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (10), mae pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio i'w benderfynu gan yr F2awdurdod addysg lleol .