Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi materion sy'n ymwneud ag apelau sy'n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002.
O dan adran 94 rhaid i awdurdod addysg leol, neu yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i gorff llywodraethu wneud trefniadau sy'n galluogi rhieni i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch derbyn plant i ysgolion, gan gynnwys penderfyniadau sy'n gwrthod caniatâd i blant sydd eisoes wedi'u derbyn i ysgol fynd i chweched dosbarth yr ysgol honno.
O dan adran 95 rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau sy'n galluogi corff llywodraethu ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod i dderbyn plentyn a oedd, adeg gwneud y penderfyniad, wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy neu ragor o ysgolion.
Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn, ac Atodlen 1 iddynt, yn darparu ar gyfer dull cyfansoddi panel apêl pan fydd trefniadau'r apêl yn cael eu gwneud gan awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu neu pan fydd trefniadau ar y cyd yn cael eu gwneud gan ddau neu ragor o gyrff llywodraethu, neu'r awdurdod addysg lleol ac un neu ragor o gyrff llywodraethu.
Mae rheoliad 4 yn nodi dyletswydd awdurdod derbyn i hysbysebu am aelodau lleyg.
Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r weithdrefn y mae panel apêl i'w mabwysiadu pan fydd yn gwrando apêl.
Mae rheoliad 6 yn nodi'r materion y mae'n rhaid i'r panel apêl derbyn eu hystyried wrth wrando apêl.
Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu lwfansau i aelodau o banelau apêl gan yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau mewn perthynas â cholled ariannol, a threuliau teithio a chynhaliaeth.
Mae rheoliad 8 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu sy'n gyfrifol am wneud trefniadau'r apêl i indemnio aelodau'r panel apêl yn erbyn treuliau neu gostau cyfreithiol a dynnwyd mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad y maent yn ei wneud.