xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1395 (Cy.109) (C.60)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

24 Mai 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2005.

2.  Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.

Dehongli

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2); a

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.

(2Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.

Y diwrnod penodedig

4.  31 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Darpariaethau Trosiannol

5.—(1Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 3 o Atodlen 4 yn gymwys o ran derbyn plant mewn blwyddyn ysgol yn gynharach na 2007-2008.

(2Er bod paragraff 10 a 11 o Atodlen 4 yn dod i rym, nid yw'r diwygiadau i adrannau 96 a 97 o Ddeddf 1998 yn effeithiol o ran penderfyniad a wnaed gan awdurdod addysg lleol cyn 31 Mai 2005 sy'n cyfarwyddo ysgol benodol i dderbyn disgybl.

(3Os bydd rhiant wedi rhoi hysbysiad o apêl yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 24 i Deddf 1998 cyn 31 Mai 2005 —

(a)mae adrannau 84(6) a 94 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 24 iddi yn parhau i fod yn effeithiol ynglyn â'r apêl honno fel pe bai adran 50, paragraffau 2 a 8 o Atodlen 4 a diddymiad Atodlen 24 i Ddeddf 1998 heb ddod i rym; a

(b)mae adran 25(5)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974(3) yn parhau i fod yn effeithiol fel pe bai paragraff 2(a) o Atodlen 21 heb ddod i rym.

(4Os bydd corff llywodraethu wedi rhoi hysbysiad o apêl yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 25 i Ddeddf 1998 cyn 31 Mai 2005 —

(a)mae adrannau 84(6), 87 a 95 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 25 iddi yn parhau i fod yn effeithiol ynglyn â'r apêl honno fel pe bai paragraffau 2 a 9 o Atodlen 4 a diddymiad Atodlen 25 i Ddeddf 1998 heb ddod i rym; a

(b)mae adran 25(5)(c) of Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 yn parhau i fod yn effeithiol fel pe bai paragraff 2(a) o Atodlen 21 heb ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2005

Erthygl 4

YR ATODLENDarpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mai 2005

Y DdarpariaethY Pwnc
Adran 50Apelau derbyn
Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isodDiwygiadau pellach o ran derbyniadau
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isodMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isodDiddymiadau
Atodlen 4, paragraffau 2, 3(1), (2), (3), (4), (5), (7), (8), 8, 9, 10, 11Trefniadau Derbyn
Atodlen 21Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol
Paragraffau 1, 2 a 22 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu —Diddymiadau
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5), Atodlenni 24 a 25,
Yn Atodlen 26, paragraffau 6(4), 8(9) a 15,
Yn Atodlen 28, Rhan 2,
Yn Atodlen 30, paragraffau 3(3), 47(a).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) ar 31 Mai 2005. Mae adran 50 yn diwygio adran 94 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”), fel bod y trefniadau ar gyfer apelau i baneli apêl yn erbyn penderfyniadau ynghylch derbyn plentyn i ysgol yn cael eu gosod mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ar 31 Mai 2005 adran 51 o Ddeddf 2002 a darpariaethau yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno sy'n gwneud diwygiadau pellach i Ddeddf 1998 o ran derbyniadau i ysgolion.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol. Mae'r diwygiadau i adran 86 o Ddeddf 1998 ynghylch hoff dewis rhiant a derbyniadau i ddosbarthiadau chwech yn gymwys o ran blwyddyn benderfynu 2005-06, pan benderfynir y trefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2007-08.

Nid yw'r diwygiadau i adrannau 96 a 97 o Ddeddf 1998 ynghylch pŵer AALlau i gyfarwyddo ysgol i dderbyn plant yn gymwys o ran penderfyniad i gyfarwyddo a wnaed cyn 31 Mai 2005.

O ran apelau derbyn a wnaed cyn 31 Mai 2005, mae darpariaethau Deddf 1998 sy'n ymwneud ag apelau o'r fath a darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1974 sy'n ymwneud ag awdurdodaeth yr ombwdsmon i fod yn effeithiol fel pe nas diwygiwyd gan Ddeddf 2002.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY DyddiadO.S. Rhif Cychwyn
Adrannau 14 i 1731 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 18(2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 19(6) (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adrannau 21 a 221 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adrannau 27 a 281 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 291 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 301 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 321 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 39(1) (yn rhannol)1 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 40 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 414 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 424 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 431 Tachwedd 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 461 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 4919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 51 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adran 52 (yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adrannau 54 i 5619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 60 i 641 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 721 Awst 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 75 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 97 a 9819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 99(1)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 100 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 101 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 105 i 10719 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 108 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 10919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 111 i 11819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1191 Hydref 20022002/2439
Adran 120(1) a (3) i (5)1 Hydref 20022002/2439
Adran 120(2)1 Awst 20032003/1667
Adran 1211 Hydref 20022002/2439
Adran 122 i 1291 Awst 20032003/1667
Adran 130 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn llawn)1 Awst 20032003/1667
Adran 13119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 132 a 13319 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 134 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 13519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 136 i 1401 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 14119 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 142 i 14431 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 14519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 146 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 148 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 14931 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 15031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 151(2)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 152 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 15431 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adran 1551 Medi 20042003/1718 (Cy.185)
Adran 15631 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adrannau 157 i 1741 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 1761 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Adran 1771 Awst 20042004/912 (Cy.95)
Adran 178(1) a (4)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 179 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 18019 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 181 i 1851 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 188 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Adran 189 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adrannau 191 i 19419 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 195 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn llawn)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 19619 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Adran 1971 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 19831 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Adran 1991 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 20031 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adran 201 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Adrannau 202 a 2031 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 2061 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Adran 207 a 2089 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Adran 215 (yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Awst 20042004/912 (Cy.95) a 2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)1 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 3, paragraffau 1 i 51 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 4, paragraffau 1 a 49 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
Paragraff 12(1), (3) i (5)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
Atodlen 519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 91 Awst 20042004/1728 (Cy.172)
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 1519 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 111 Hydref 20022002/2439
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 719 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Paragraff 12(1) a (2)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 14, paragraffau 1 i 71 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 31 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 919 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 819 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 731 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 1531 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 181 Medi 20032002/3185 (Cy.301)
Atodlen 191 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 201 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)19 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1667
(yn rhannol)1 Medi 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Awst 20042004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)1 Medi 20042004/1728 (Cy.172)
Atodlen 22 (yn rhannol)1 Hydref 20022002/2439
(yn rhannol)9 Rhagfyr 20022002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)31 Mawrth 20032002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)1 Awst 20032003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)1 Medi 20032002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)4 Rhagfyr 20032003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)1 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)9 Ionawr 20042003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)31 Mawrth 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Awst 20042004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)1 Medi 20042004/1728 (Cy.172)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.