Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym rai o ddarpariaethau penodol Rhan II o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) o ran Cymru ar 31 Mai 2005, 15 Gorffennaf 2005 a 21 Tachwedd 2005.

Mae'r darpariaethau y mae'r Gorchymyn hwn yn eu cychwyn yn gwella ac yn atgyfnerthu'r gwaith o reoli'r 33,000 o gilometrau amcangyfrifedig o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru drwy—

(a)galluogi awdurdodau priffyrdd lleol i gyfuno eu mapiau diffiniol os ydynt yn anghyflawn o ganlyniad i ad-drefnu llywodraeth leol yn flaenorol a thrwy wneud mân ddiwygiadau i'r gweithdrefnau sy'n gymwys i orchmynion llwybrau cyhoeddus ac addasiadau yn gyffredinol. Daw'r darpariaethau hyn i rym ar 31 Mai 2005 (erthygl 2);

(b)galluogi awdurdodau priffyrdd lleol i gau neu wyro llwybrau troed, llwybrau ceffylau ac, ymhen amser, gilffyrdd cyfyngedig, at ddibenion amddiffyn plant ysgol a staff ysgolion drwy helpu'r awdurdodau i wella diogelwch mewn ysgolion lle y mae llwybrau cyhoeddus yn croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol. Daw'r darpariaethau hyn i rym ar 15 Gorffennaf 2005 (erthygl 3); ac

(c)ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau priffyrdd lleol lunio a chadw tair cofrestr newydd sy'n ymwneud â gorchmynion llwybrau cyhoeddus ac addasiadau a thrwy alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i ragnodi cynnwys y cofrestrau hynny. Daw'r darpariaethau hyn i rym ar 21 Tachwedd 2005 (erthygl 4).