ATODLEN 6CYNLLUN LLEOLIAD

Rheoliad 36(2)

1

Statws y plentyn a ph'un a leolwyd ef o dan orchymyn lleoliad neu gyda chydsyniad ei rieni gwaed.

2

Y trefniadau ar gyfer paratoi'r plentyn a'r darpar fabwysiadydd ar gyfer y lleoliad.

3

Y dyddiad y bwriedir lleoli'r plentyn i'w fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

4

Y trefniadau ar gyfer adolygu'r lleoliad.

5

A fwriedir cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant y darpar fabwysiadydd ac os felly i ba raddau y bydd y cyfyngu.

6

Y gwasanaethau cymorth mabwysiadu y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu eu darparu ar gyfer y plentyn a'r teulu mabwysiadol, sut y darperir hwy a chan bwy (os yw'n gymwys).

7

Y trefniadau a wnaeth yr asiantaeth fabwysiadu er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson, ffurf y cyswllt a'r trefniadau ar gyfer cefnogi cyswllt ac enw a manylion cyswllt y person sy'n gyfrifol am hwyluso'r trefniadau cyswllt (os yw'n gymwys).

8

Y dyddiad pan roddir llyfr stori bywyd a llythyr am fywyd yn nes ymlaen i'r darpar fabwysiadydd neu i'r plentyn.

9

Manylion unrhyw drefniadau y mae angen eu gwneud.

10

Manylion cyswllt gweithiwr cymdeithasol y plentyn, gweithiwr cymdeithasol y darpar fabwysiadydd a chysylltiadau y tu allan i oriau.