ATODLEN 4

RHAN 1GWYBODAETH AM Y DARPAR FABWYSIADYDD

Rheoliad 26(2)

Gwybodaeth am y darpar fabwysiadydd

1

Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.

2

Llun a disgrifiad corfforol.

3

A yw domisil neu gartref arferol y darpar fabwysiadydd mewn rhan o Ynysoedd Prydain ac os yw cartref arferol y darpar fabwysiadydd yno, ers pa bryd.

4

Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

5

Cred grefyddol, os oes un.

6

Y berthynas â'r plentyn (os oes un).

7

Asesiad o bersonoliaeth a diddordebau'r darpar fabwysiadydd.

8

Os yw'r darpar fabwysiadydd yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac os yw'n gwneud y cais ar ei ben ei hun, asesiad o addasrwydd y darpar fabwysiadydd ar gyfer mabwysiadu a'r rhesymau dros hynny.

9

Manylion o unrhyw achosion blaenorol mewn llys teulu y bu'r darpar fabwysiadydd yn cymryd rhan ynddynt.

10

Enwau a chyfeiriadau tri chanolwr a fydd yn rhoi geirda personol am y darpar fabwysiadydd, na chaiff mwy nag un ohonynt fod yn berthynas iddo.

11

Enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig y darpar fabwysiadydd, os oes un.

12

O ran y darpar fabwysiadydd —

a

os yw'n briod, dyddiad a man y briodas;

b

os yw wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad a man cofrestru'r bartneriaeth honno; neu

c

os oes partner gan y darpar fabwysiadydd, manylion y berthynas honno.

13

Manylion unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas flaenorol.

14

Coeden deulu gyda manylion y darpar fabwysiadydd, ei blant ac unrhyw frodyr a chwiorydd, gyda'u hoedran (neu eu hoedran pan fuont farw).

15

Cronoleg o'r darpar fabwysiadydd ers ei eni.

16

Sylwadau darpar fabwysiadydd am ei brofiad am y rhianta a gafodd yn ei blentyndod a sut y dylanwadodd hyn arno.

17

Manylion unrhyw brofiad sydd gan y darpar fabwysiadydd o ofalu am blant (gan gynnwys fel rhiant, llys-riant, rhiant maeth, gwarchodwr plant neu ddarpar fabwysiadydd) ac asesiad o'i allu yn y cyswllt hwnnw.

18

Unrhyw wybodaeth arall sy'n dangos sut y mae'r darpar fabwysiadydd ac unrhyw un arall sy'n byw ar ei aelwyd yn debygol o ymwneud â'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

Y teulu ehangach19

Disgrifiad o deulu ehangach y darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd i'r darpar fabwysiadydd a'i rôl a'i bwysigrwydd tebygol i'r plentyn a leolir ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

Gwybodaeth am gartref y darpar fabwysiadydd etc.

20

Asesiad o gartref a chymdogaeth y darpar fabwysiadydd.

21

Manylion aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd (gan gynnwys unrhyw blant i'r darpar fabwysiadydd p'un a ydynt yn preswylio ar yr aelwyd ai peidio).

22

Cymuned leol y darpar fabwysiadydd, gan gynnwys i ba raddau yr integreiddiodd y teulu, grwpiau o gymheiriaid, cyfeillgarwch a rhwydweithiau cymdeithasol y teulu.

Addysg a chyflogaeth

23

Manylion hanes addysg a chyraeddiadau'r darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.

24

Manylion hanes cyflogaeth y darpar fabwysiadydd a sylwadau'r darpar fabwysiadydd ar sut y cafodd hyn ddylanwad.

25

Cyflogaeth bresennol y darpar fabwysiadydd a'i farn am gyflawni cydbwysedd rhwng cyflogaeth a gofal plant.

Incwm26

Manylion incwm a gwariant y darpar fabwysiadydd.

Gwybodaeth arall

27

Gallu'r darpar fabwysiadydd —

a

i rannu hanes geni'r plentyn a materion emosiynol cysylltiedig;

b

deall a chefnogi'r plentyn drwy deimladau posibl o golled a thrawma.

28

O ran y darpar fabwysiadydd —

a

ei resymau dros ddymuno mabwysiadu plentyn;

b

ei farn a'i deimladau am fabwysiadu a'i arwyddocâd;

c

ei farn am ei gynneddf i rianta;

ch

ei farn am ei gyfrifoldeb rhiant a'r hyn y mae'n ei olygu;

d

ei farn am amgylchedd cartref addas i blentyn;

dd

ei farn am bwysigrwydd a gwerth addysg;

e

ei farn a'i deimladau ynghylch pwysigrwydd magwraeth grefyddol a diwylliannol plentyn;

f

ei farn a'i deimladau am gyswllt o ran plentyn.

29

Barn aelodau eraill o aelwyd y darpar fabwysiadydd a'r teulu ehangach o ran mabwysiadu.

30

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.