ATODLEN 3

RHAN 2TRAMGWYDDAU STATUDOL A DDIDDYMWYD

Rheoliad 23(4)

1

1

Tramgwydd o dan unrhyw un o adrannau canlynol Deddf Tramgwyddau Rhywiol 1956—

a

adran 1 (trais);

b

adran 5 (cyfathrach rywiol â merch o dan 13 oed);

c

onid yw paragraff 4 yn gymwys, adran 6 (cyfathrach rywiol â merch o dan 16 oed);

ch

adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);

d

adran 25 neu 26 o'r Ddeddf honno (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 a 16 oed, i ddefnyddio mangre i gael cyfathrach rywiol);

dd

adran 28 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio merch o dan 16 oed neu gyfathrach rywiol â hi neu ymosodiad anweddus arni).

2

Tramgwydd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster â Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).

3

Tramgwydd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Troseddau 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach).

4

Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).

2

Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad —

a

tramgwydd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (caffael menyw drwy fygwth neu haeru anwir);

b

tramgwydd o dan adran 4 o'r Ddeddf honno (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach rywiol);

c

tramgwydd o dan adran 14 neu 15 o'r Ddeddf honno (ymosodiad anweddus);

ch

tramgwydd o dan adran 16 o'r Ddeddf honno (ymosodiad gyda'r bwriad o gyflawni sodomiaeth);

d

tramgwydd o dan adran 17 o'r Ddeddf honno (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);

dd

tramgwydd o dan adran 24 o'r Ddeddf honno (dal menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall).

3

Daw person o fewn y paragraff hwn os cafodd ei gollfarnu o unrhyw un o'r tramgwyddau canlynol yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad.

a

tramgwydd o dan adran 7 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (cyfathrach rywiol â pherson diffygiol) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;

b

tramgwydd o dan adran 9 o'r Ddeddf honno (caffael person diffygiol) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol;

c

tramgwydd o dan adran 10 o'r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;

ch

tramgwydd o dan adran 11 o'r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw) drwy ganiatáu i blentyn gael cyfathrach rywiol â hi;

d

onid yw paragraff 4 yn gymwys, tramgwydd o dan adran 12 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16 oed;

dd

onid yw paragraff 4 yn gymwys, tramgwydd o dan adran 13 o'r Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred o anwedduster garw â phlentyn;

e

tramgwydd o dan adran 21 o'r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad) drwy ddwyn y plentyn o feddiant ei riant neu warcheidwad;

f

tramgwydd o dan adran 22 o'r Ddeddf honno (peri puteinio menywod) o ran plentyn;

ff

tramgwydd o dan adran 23 o'r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol â thrydydd person;

g

tramgwydd o dan adran 27 o'r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach rywiol) drwy gymell neu ganiatáu i blentyn droi at fangre neu fod mewn mangre at ddibenion cael cyfathrach rywiol;

ng

tramgwydd o dan adran 29 o'r Ddeddf honno (peri neu annog puteinio person diffygiol) drwy beri neu annog puteinio plentyn;

h

tramgwydd o dan adran 30 o'r Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra) mewn achos lle bo'r butain yn blentyn;

i

tramgwydd o dan adran 31 o'r Ddeddf honno (menyw yn gweithredu rheolaeth dros butain) mewn achos lle bo'r butain yn blentyn;

j

tramgwydd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn;

l

tramgwydd o dan adran 4 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol) drwy—

i

caffael plentyn i gyflawni gweithred o sodomiaeth gydag unrhyw berson; neu

ii

caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred o sodomiaeth â phlentyn;

ll

tramgwydd o dan adran 5 o'r Ddeddf honno (byw ar enillion puteinio gwrywaidd) drwy fyw yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar enillion puteinio plentyn;

m

tramgwydd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968 (bwrgleriaeth), drwy fynd i mewn i adeilad neu ran o adeilad gyda'r bwriad o dreisio plentyn.

4

Nid yw paragraffau 1(c) a 3(d) a (dd) yn cynnwys tramgwyddau mewn achos os oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed pan gyflawnwyd y tramgwydd.