ATODLEN 3

RHAN 1TRAMGWYDDAU A BENNIR AT DDIBENION RHEOLIAD 23(3)(b)

Tramgwyddau yng Nghymru a Lloegr1

Tramgwydd treisio oedolyn o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 —

a

tramgwydd trais o dan adran 1 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 200325;

b

tramgwydd ymosodiad drwy dreiddiad o dan adran 2 o'r Ddeddf honno;

c

tramgwydd peri i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 o'r Ddeddf honno os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (3);

ch

tramgwydd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis o dan adran 30 o'r Ddeddf honno os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3);

d

tramgwydd peri neu ysgogi person ag anhwylder meddwl sy'n llesteirio dewis, i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 o'r Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a barwyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3);

dd

tramgwydd cymell, bygwth neu ddichell i ddenu gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 o'r Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (2); ac

e

tramgwydd o beri i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2).

Tramgwyddau yn yr Alban

2

Tramgwydd trais.

3

Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf y Weithdrefn Droseddol (yr Alban) 199526 ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adran 5 o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (yr Alban) 1995 (cyfathrach rywiol â merch o dan 16 oed)27, tramgwydd o anwedduster digywilydd rhwng dynion neu dramgwydd sodomiaeth.

4

Tramgwydd plagiwm (lladrata plentyn o dan oed blaenaeddfedrwydd).

5

Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Sifil (yr Alban) 1982 (lluniau anweddus o blant)28.

6

Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth)29.

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon

7

Tramgwydd trais.

8

Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196830, ac eithrio mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed adeg cyflawni'r tramgwydd, tramgwydd sy'n groes i adrannau 5 neu 11 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Trosedd 1885 (cyfathrach gnawdol anghyfreithlon â merch o dan 17 oed ac anwedduster garw rhwng gwrywod)31, neu dramgwydd yn groes i adran 61 o Ddeddf Tramgwyddau Corfforol 1861 (sodomiaeth).

9

Tramgwydd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (lluniau anweddus)32.

10

Tramgwydd o dan Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 i gael cyfathrach rywiol losgachol)33.

11

Tramgwydd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth, etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar lun anweddus o blant)34.

12

Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (cam-drin ymddiriedaeth).