ATODLEN 1

RHAN 3GWYBODAETH AM DEULU'R PLENTYN AC ERAILL

Rheoliad 16(1)

Gwybodaeth am bob rhiant i'r plentyn (gan gynnwys y rhieni naturiol a mabwysiadol) gan gynnwys tad nad oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am y plentyn

1

Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.

2

Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol.

3

Cenedl21.

4

Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

5

Cred grefyddol, os oes un.

6

Disgrifiad o'u personoliaeth a'u diddordebau.

Gwybodaeth am frodyr a chwiorydd y plentyn

7

Enw, rhyw a dyddiad a man geni.

8

Llun, os oes un ar gael, a disgrifiad corfforol.

9

Cenedl22.

10

Cyfeiriad, os yw'n briodol.

11

Os unrhyw frawd neu chwaer o dan 18 oed—

a

ym mha le a gyda phwy y mae ef neu hi yn byw;

b

a yw'n derbyn gofal neu a ddarperir llety iddo neu iddi o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989;

c

manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed ynglyn ag ef neu hi o dan Ddeddf 1989 gan gynnwys enw'r llys, y gorchymyn a wnaed a'r dyddiad y gwnaed y gorchymyn; ac

ch

a ydyw ef neu hi hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer eu mabwysiadu.

Gwybodaeth am berthnasau eraill y plentyn ac unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol

12

Enw, rhyw a dyddiad a man geni.

13

Cenedl23.

14

Cyfeiriad, os yw'n briodol.

Hanes y teulu a pherthnasau

15

A oedd mam a thad y plentyn yn briod â'i gilydd adeg geni'r plentyn (neu a ydynt wedi priodi ar ôl hynny) ac os felly, dyddiad a man y briodas ac a yw'r rhieni wedi ysgaru neu wedi gwahanu.

16

Os nad oedd rhieni'r plentyn yn briod a'i gilydd ar adeg geni'r plentyn, a oes gan dad y plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac os felly sut y cafwyd ef.

17

Os na wyddys pwy yw tad y plentyn na ble y mae, yr wybodaeth amdano sy'n hysbys a phwy a'i rhoes, a'r camau a gymrwyd i ddarganfod tadolaeth.

18

Os bu rhieni'r plentyn yn briod neu wedi ffurfio partneriaeth sifil, dyddiad y briodas neu yn ôl y digwydd, dyddiad a man cofrestru'r bartneriaeth sifil.

19

I'r graddau y mae'n bosibl, coeden deulu a manylion teidiau a neiniau'r plentyn, ei fodrybedd a'i ewythredd a'u hoedran (neu eu hoedran pan fuont farw).

20

Os yw'n rhesymol ymarferol, cronoleg dau riant y plentyn ers eu genedigaeth.

21

Sylwadau rhieni'r plentyn am eu profiadau hwy am y rhiant a gawsant yn eu plentyndod a sut y dylanwadodd hyn arnynt.

22

Y berthynas a fu a'r berthynas bresennol rhwng rhieni'r plentyn.

23

Manylion am y teulu ehangach a'u rôl a'u pwysigrwydd —

a

i rieni'r plentyn; a

b

i unrhyw frodyr neu chwiorydd y plentyn.

Gwybodaeth arall am ddau riant y plentyn ac os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, y tad

24

Gwybodaeth am eu cartref a'r gymdogaeth y maent yn byw ynddi.

25

Manylion hanes eu haddysg.

26

Manylion hanes eu cyflogaeth.

27

Gwybodaeth am gynneddf rianta mam a thad y plentyn, yn enwedig eu gallu a'u parodrwydd i rianta'r plentyn.

28

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.