ATODLEN 1

RHAN 1GWYBODAETH AM Y PLENTYN

Rheoliad 15(1)

1

Enw, rhyw, dyddiad a man geni a chyfeiriad gan gynnwys ardal yr awdurdod lleol.

2

Llun a disgrifiad corfforol.

3

Cenedl20.

4

Tarddiad hiliol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol.

5

Cred grefyddol, os oes un, (gan gynnwys manylion bedydd, gwasanaeth derbyn neu seremonïau cyfatebol).

6

A yw'r plentyn yn derbyn gofal neu a ddarperir llety iddo o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989.

7

Manylion unrhyw orchymyn llys a wnaed ynglŷn â'r plentyn o dan Ddeddf 1989 gan gynnwys enw'r llys, y gorchymyn a wnaed a'r dyddiad y gwnaed y gorchymyn.

8

A oes gan y plentyn unrhyw hawl i eiddo neu unrhyw fuddiant ynddynt neu unrhyw hawliad am iawndal o dan Ddeddf Damweiniau Angheuol 1976 neu fel arall y gall eu cadw neu eu colli os mabwysiadir ef.

9

Cronoleg o ofal y plentyn ers ei enedigaeth.

10

Asesiad o bersonoliaeth y plentyn, ei ddatblygiad cymdeithasol a'i ddatblygiad emosiynol a datblygiad ei ymddygiad.

11

A oes gan y plentyn unrhyw anawsterau gyda gweithgareddau megis bwydo, ymolchi ac ymwisgo.

12

Hanes addysgol y plentyn gan gynnwys—

a

enwau, cyfeiriadau a'r mathau o feithrinfeydd neu ysgolion a fynychwyd gyda dyddiadau;

b

crynodeb o'i gynnydd a'i gyraeddiadau;

c

a yw'n ddarostyngedig i ddatganiad o dan Ddeddf Addysg 1996;

ch

unrhyw anghenion arbennig sydd ganddo o ran dysgu; a

d

os yw'n derbyn gofal, manylion ei gynllun addysg personol a baratowyd gan yr awdurdod lleol.

13

Gwybodaeth am—

a

perthynas y plentyn gyda —

i

ei riant neu ei warcheidwad ac, os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad;

ii

unrhyw frodyr neu chwiorydd neu berthnasau eraill; a

iii

unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu ei fod yn berthnasol;

b

y tebygolrwydd y gall y berthynas honno barhau a gwerth hynny i'r plentyn; a

c

gallu a pharodrwydd unrhyw un o berthnasau'r plentyn, neu unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol, i roi amgylchedd diogel i'r plentyn y gall ddatblygu ynddo, a bodloni ei anghenion fel arall.

14

Y trefniadau ar hyn o bryd a'r math o gyswllt rhwng rhiant y plentyn neu ei warcheidwad neu berson arall â chyfrifoldeb rhiant amdano ac, os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad, ac unrhyw berthynas, cyfaill neu berson arall.

15

Disgrifiad o ddiddordebau'r plentyn, ei hoff bethau a'i gas bethau.

16

Unrhyw wybodaeth berthnasol arall a allai fod o gymorth i'r panel mabwysiadu neu'r asiantaeth fabwysiadu.