RHAN 2ASIANTAETH FABWYSIADU — TREFNIADAU AR GYFER GWAITH MABWYSIADU

Gofyniad i benodi cynghorydd asiantaeth i'r panel mabwysiadu8

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi uwch aelod o staff, neu yn achos panel mabwysiadu ar y cyd rhaid i'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel drwy gytundeb benodi uwch aelod o staff o un o'r awdurdau lleol hynny, (i'w alw'n “cynghorydd yr asiantaeth”) gyda'r cymwysterau, y sgiliau a'r profiad y mae'r asiantaeth yn ystyried eu bod yn briodol —

a

i gynorthwyo'r asiantaeth wrth benodi (gan gynnwys ailbenodi), terfynu ac adolygu penodi aelodau o'r panel mabwysiadu;

b

i fod yn gyfrifol am gynefino a hyfforddi aelodau o'r panel mabwysiadu;

c

i fod yn gyfrifol am weinyddu'r panel mabwysiadu, gan gynnwys cynorthwyo gyda chydlynu rhwng yr asiantaeth a'r panel mabwysiadu a monitro perfformiad aelodau o'r panel mabwysiadu; ac

ch

i roi'r cyfryw gyngor i'r panel mabwysiadu y gall y panel ofyn amdano o ran unrhyw achos neu yn gyffredinol.