RHAN 2ASIANTAETH FABWYSIADU — TREFNIADAU AR GYFER GWAITH MABWYSIADU

Trefniadau asiantaeth fabwysiadu ar gyfer gwaith mabwysiadu7

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, drwy ymgynghori â'r panel mabwysiadu ac, i'r graddau a bennir yn rheoliad 9(2), â chynghorydd meddygol yr asiantaeth, baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig a chyfarwyddiadau gweithdrefnol sy'n llywodraethu sut yr arferir swyddogaethau'r asiantaeth a'r panel o ran mabwysiadu, a rhaid i'r asiantaeth adolygu'r cyfarwyddiadau hynny yn gyson a, phan fydd yn briodol, eu diwygio.