RHAN 2ASIANTAETH FABWYSIADU — TREFNIADAU AR GYFER GWAITH MABWYSIADU

Cyfarfodydd panel mabwysiadu5

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chynhelir unrhyw fusnes gan y panel mabwysiadu onid yw o leiaf bump o'i aelodau, gan gynnwys y person a benodwyd i gadeirio'r panel neu un o'r is-gadeiryddion, ac o leiaf un o'r gweithwyr cymdeithasol ac o leiaf un o'r personau annibynnol, yn cyfarfod fel y panel.

2

Yn achos panel mabwysiadu ar y cyd, ni chynhelir unrhyw fusnes ganddo onid yw o leiaf chwech o'i aelodau, gan gynnwys y person a benodwyd i gadeirio'r panel neu un o'r is-gadeiryddion, ac o leiaf un gweithiwr cymdeithasol ac o leiaf un o'r personau annibynnol, yn cyfarfod fel y panel.

3

Rhaid i'r panel mabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o'i drafodion, ei argymhellion a'r rhesymau dros ei argymhellion.