RHAN 8AMRYWIOL

Cyswllt47

1

Os yw'r asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu o dan adran 27(2) o'r Ddeddf i wrthod caniatáu'r cyswllt a fyddai fel arall yn ofynnol yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth, cyn gynted ag y gwneir y penderfyniad, hysbysu'r personau a bennir ym mharagraff (4) yn ysgrifenedig o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod.

2

Gellir peidio â dilyn telerau gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf drwy gytundeb rhwng yr asiantaeth fabwysiadu ac unrhyw berson y mae'r gorchymyn yn darparu cyswllt iddo â'r plentyn yn yr amgylchiadau canlynol ac yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol —

a

os yw'r plentyn yn ddigon hen a'i fod yn deall digon, yn ddarostyngedig i gytundeb y plentyn;

b

os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, yn ddarostyngedig i ymgynghori blaenorol â'r darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu; ac

c

hysbysiad ysgrifenedig gan yr asiantaeth i'r personau a bennir ym mharagraff (4) o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod, o fewn saith niwrnod o'r cytundeb i beidio â dilyn telerau'r gorchymyn.

3

Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn amrywio neu'n atal unrhyw drefniadau a wnaed (heblaw o dan orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf) er mwyn caniatáu cyswllt i unrhyw berson â'r plentyn, rhaid i'r asiantaeth hysbysu'r personau a bennir ym mharagraff (4) yn ysgrifenedig o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod.

4

Mae'r personau canlynol yn rhai a bennir at ddibenion paragraffau (1) a (2) —

a

y plentyn os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn ei fod yn ddigon hen a'i fod yn deall digon;

b

rhiant y plentyn;

c

rhiant neu warcheidwad y plentyn;

ch

unrhyw berson y mae'r gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf yn darparu cyswllt iddo;

d

unrhyw berson y caniataodd yr asiantaeth gyswllt iddo â'r plentyn;

dd

os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y darpar fabwysiadydd;

e

unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth o'r farn bod ei ddymuniadau a'i deimladau yn berthnasol.

5

Mae'r wybodaeth ganlynol yn un a bennir at ddibenion paragraffau 1, 2 a 3 —

a

penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu;

b

dyddiad y penderfyniad;

c

y rhesymau dros y penderfyniad;

ch

pa hyd y pery'r penderfyniad (os yw'n gymwys).