RHAN 8AMRYWIOL

Addasu Deddf 1989 o ran mabwysiadu46

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

a

pan awdurdodir awdurdod lleol i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; neu

b

pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan awdurdod lleol yn llai na chwe wythnos oed.

2

Pan fydd paragraff (1) yn gymwys—

a

ni fydd adran 22(4) (b) o Ddeddf 1989 yn gymwys;

b

bydd adran 22(4)(c) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe bai'r canlynol yn cael ei fewnosod yn lle'r is-baragraff hwnnw “(c) any prospective adopter with whom the local authority has placed the child for adoption.”;

c

bydd adran 22(5)(b) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe bai'r geiriau “(4)(c) and (d)” yn cael eu mewnosod yn lle “(4)(b) to (d)”; ac

ch

ni fydd paragraffau 15 a 21 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989 yn gymwys.

3

Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan awdurdodir cymdeithas fabwysiadu gofrestredig i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan gymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn llai na 6 wythnos oed.

4

Pan fydd paragraff (3) yn gymwys —

a

bydd adran 61(2)(a) o Ddeddf 1989 yn effeithiol o ran y plentyn p'un a letyir ef gan neu ar ran y gymdeithas ai peidio;

b

ni fydd adran 61(2)(b) o Ddeddf 1989 yn gymwys;

c

bydd adran 61(2)(c) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe mewnosodwyd yn lle'r is-baragraff hwnnw “(c) any prospective adopter with whom the registered adoption society has placed the child for adoption.”.