RHAN 6LLEOLIADAU AC ADOLYGIADAU

Swyddogion adolygu annibynnol38

1

Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sy'n awdurdod lleol neu'n gymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n gorff gwirfoddol sydd yn darparu llety i blentyn, benodi person (“y swyddog adolygu annibynnol”) o ran achos pob plentyn a awdurdodwyd i'w leoli ar gyfer mabwysiadu gan yr asiantaeth i gyflawni'r swyddogaethau a grybwyllir yn adran 26(2A) o Ddeddf 1989.

2

Rhaid bod gan y swyddog adolygu annibynnol brofiad arwyddocaol mewn gwaith cymdeithasol a'i fod yn dal Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol a gydnabyddir gan Gyngor Gofal Cymru.

3

Os yw'r swyddog adolygu annibynnol yn gyflogai i'r asiantaeth fabwysiadu rhaid sicrhau nad yw swydd y swyddog adolygu annibynnol yn yr asiantaeth honno o dan reolaeth uniongyrchol —

a

person sy'n ymwneud â rheoli'r achos;

b

person sydd â chyfrifoldebau rheoli o ran y person a grybwyllir yn is-baragraff (a); neu

c

person sydd â rheolaeth dros yr adnoddau a glustnodwyd i'r achos.

4

Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, gadeirio unrhyw gyfarfod a gynhelir mewn cysylltiad ag adolygiad achos y plentyn.

5

Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, gymryd camau i sicrhau y cynhelir yr adolygiad yn unol â rheoliad 37 ac yn benodol sicrhau—

a

bod barn y plentyn yn cael ei deall a'i hystyried;

b

bod y personau sy'n gyfrifol am weithredu unrhyw benderfyniad a wnaed o ganlyniad i'r adolygiad yn cael eu henwi; a

c

bod unrhyw fethiant i adolygu'r achos yn unol â rheoliad 37 neu i gymryd camau priodol i wneud neu weithredu trefniadau y cytunwyd arnynt yn yr adolygiad yn cael ei ddwyn i sylw personau ar lefel briodol o gyfrifoldeb yn yr asiantaeth.

6

Os bydd y plentyn yr adolygir ei achos yn dymuno dwyn camau cyfreithiol o dan y Ddeddf ar ei ran ei hun, er enghraifft, gwneud cais i'r llys i ddirymu gorchymyn lleoliad, swyddogaeth y swyddog adolygu annibynnol yw—

a

cynorthwyo'r plentyn i gael cyngor cyfreithiol; neu

b

sefydlu a oes oedolyn priodol yn alluog ac yn barod i weithredu i ddarparu'r cymorth hwnnw neu ddwyn camau cyfreithiol ar ran y plentyn.

7

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r swyddog adolygu annibynnol o—

a

unrhyw fethiant arwyddocaol i wneud neu weithredu trefniadau yn unol ag adolygiad;

b

unrhyw newid arwyddocaol mewn amgylchiadau sy'n digwydd ar ôl yr adolygiad sy'n effeithio ar y trefniadau hynny.