- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
38.—(1) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu sy'n awdurdod lleol neu'n gymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n gorff gwirfoddol sydd yn darparu llety i blentyn, benodi person (“y swyddog adolygu annibynnol”) o ran achos pob plentyn a awdurdodwyd i'w leoli ar gyfer mabwysiadu gan yr asiantaeth i gyflawni'r swyddogaethau a grybwyllir yn adran 26(2A) o Ddeddf 1989.
(2) Rhaid bod gan y swyddog adolygu annibynnol brofiad arwyddocaol mewn gwaith cymdeithasol a'i fod yn dal Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol neu Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfatebol a gydnabyddir gan Gyngor Gofal Cymru.
(3) Os yw'r swyddog adolygu annibynnol yn gyflogai i'r asiantaeth fabwysiadu rhaid sicrhau nad yw swydd y swyddog adolygu annibynnol yn yr asiantaeth honno o dan reolaeth uniongyrchol —
(a)person sy'n ymwneud â rheoli'r achos;
(b)person sydd â chyfrifoldebau rheoli o ran y person a grybwyllir yn is-baragraff (a); neu
(c)person sydd â rheolaeth dros yr adnoddau a glustnodwyd i'r achos.
(4) Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, gadeirio unrhyw gyfarfod a gynhelir mewn cysylltiad ag adolygiad achos y plentyn.
(5) Rhaid i'r swyddog adolygu annibynnol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, gymryd camau i sicrhau y cynhelir yr adolygiad yn unol â rheoliad 37 ac yn benodol sicrhau—
(a)bod barn y plentyn yn cael ei deall a'i hystyried;
(b)bod y personau sy'n gyfrifol am weithredu unrhyw benderfyniad a wnaed o ganlyniad i'r adolygiad yn cael eu henwi; a
(c)bod unrhyw fethiant i adolygu'r achos yn unol â rheoliad 37 neu i gymryd camau priodol i wneud neu weithredu trefniadau y cytunwyd arnynt yn yr adolygiad yn cael ei ddwyn i sylw personau ar lefel briodol o gyfrifoldeb yn yr asiantaeth.
(6) Os bydd y plentyn yr adolygir ei achos yn dymuno dwyn camau cyfreithiol o dan y Ddeddf ar ei ran ei hun, er enghraifft, gwneud cais i'r llys i ddirymu gorchymyn lleoliad, swyddogaeth y swyddog adolygu annibynnol yw—
(a)cynorthwyo'r plentyn i gael cyngor cyfreithiol; neu
(b)sefydlu a oes oedolyn priodol yn alluog ac yn barod i weithredu i ddarparu'r cymorth hwnnw neu ddwyn camau cyfreithiol ar ran y plentyn.
(7) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r swyddog adolygu annibynnol o—
(a)unrhyw fethiant arwyddocaol i wneud neu weithredu trefniadau yn unol ag adolygiad;
(b)unrhyw newid arwyddocaol mewn amgylchiadau sy'n digwydd ar ôl yr adolygiad sy'n effeithio ar y trefniadau hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: