RHAN 6LLEOLIADAU AC ADOLYGIADAU

Adolygiadau37

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan awdurdodir asiantaeth fabwysiadu i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu ond na leolwyd y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

2

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw plentyn yn cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu.

3

Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud adolygiad achos ar y plentyn —

a

dim mwy na thri mis ar ôl y dyddiad y mae gan yr asiantaeth yr awdurdod am y tro cyntaf i leoli; a

b

wedyn dim mwy na chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol (“adolygiad chwe mis”),

nes lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

4

Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud adolygiad achos ar y plentyn —

a

dim mwy na phedair wythnos ar ôl dyddiad y lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu (“yr adolygiad cyntaf”);

b

dim mwy na thri mis ar ôl yr adolygiad cyntaf; ac

c

wedyn dim mwy na chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol,

oni chaiff y plentyn ei ddychwelyd i'r asiantaeth gan y darpar fabwysiadydd neu oni wneir gorchymyn mabwysiadu.

5

Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

a

sicrhau yr ymwelir â'r plentyn a'r darpar fabwysiadydd o fewn un wythnos ar ôl y lleoli ac wedyn o leiaf unwaith yr wythnos tan yr adolygiad cyntaf ac wedyn yn ôl yr amlder a benderfynir gan yr asiantaeth ym mhob adolygiad;

b

sicrhau bod adroddiadau ysgrifenedig yn cael eu llunio am yr ymweliadau hynny; ac

c

rhoi cyngor a chymorth o'r fath i'r darpar fabwysiadydd y mae'r asiantaeth o'r farn bod eu hangen.

6

Wrth wneud adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ymweld â'r plentyn ac i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol ganfod barn —

a

y plentyn yng ngoleuni ei oedran a'i ddealltwriaeth;

b

os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y darpar fabwysiadydd; ac

c

unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu eu bod yn berthnasol,

o ran pob un o'r materion a nodir ym mharagraff (7)(a) i (dd).

7

Fel rhan o bob adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried—

a

p'un a leolwyd y plentyn ai peidio, a ydyw'r asiantaeth fabwysiadu yn parhau'n fodlon y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu;

b

anghenion y plentyn, ei les, ei gynnydd a'i ddatblygiad, ac a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i ddiwallu anghenion y plentyn neu gynorthwyo datblygiad y plentyn;

c

y trefniadau presennol ar gyfer cyswllt, ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu;

ch

pan leolir plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y trefniadau o ran arfer cyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu;

d

y trefniadau presennol ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ac a ddylid gwneud ailasesiad o'r angen am y gwasanaethau hynny;

dd

wrth ymgynghori â'r asiantaethau priodol, y trefniadau ar gyfer asesu a diwallu anghenion gofal iechyd ac anghenion addysgol y plentyn;

e

yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) amlder yr adolygiadau.

8

Os yw'r plentyn yn destun gorchymyn lleoliad ond na chafodd ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu ar adeg yr adolygiad chwe mis cyntaf, rhaid i'r awdurdod yn yr adolygiad hwnnw—

a

darganfod pam na chafodd y plentyn ei leoli ar gyfer mabwysiadu ac ystyried pa gamau pellach ddylai'r awdurdod eu cymryd o ran lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; a

b

yng ngoleuni hynny, ystyried a yw'n parhau'n fodlon y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu.

9

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

a

nodi'n ysgrifenedig y trefniadau sy'n llywodraethu'r dull y mae achos pob plentyn i gael ei adolygu a rhaid dwyn y trefniadau ysgrifenedig i sylw—

i

y plentyn os yw'n rhesymol ymarferol yng ngoleuni ei oedran a'i ddealltwriaeth;

ii

y darpar fabwysiadydd; a

iii

unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn barnu ei fod yn berthnasol.

b

sicrhau bod—

i

yr wybodaeth a gafwyd o ran achos plentyn gan gynnwys dymuniadau a theimladau'r plentyn hyd y gellir eu casglu;

ii

manylion y trafodion mewn unrhyw gyfarfod a drefnwyd gan yr asiantaeth i ystyried unrhyw agwedd ar adolygiad o'r achos; a

iii

manylion unrhyw benderfyniad a wnaed yn ystod adolygiad neu o ganlyniad iddo (gan gynnwys amlder yr ymweliadau),

yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig a'u rhoi yng nghofnod achos y plentyn.

10

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, hysbysu—

a

y plentyn os yw o'r farn ei fod yn ddigon hen a'i fod yn deall digon;

b

y darpar fabwysiadydd; ac

c

unrhyw berson arall y mae'n ystyried y dylid ei hysbysu

o ganlyniad yr adolygiad ac o unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddi o ganlyniad i'r adolygiad.

11

Os dychwelir y plentyn i'r asiantaeth fabwysiadu yn unol ag adran 35(1) neu (2) o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth gynnal adolygiad o achos y plentyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na 28 niwrnod ar ôl y dyddiad y dychwelir y plentyn i'r asiantaeth.