RHAN 6LLEOLIADAU AC ADOLYGIADAU

Gofynion a osodir ar yr asiantaeth fabwysiadu cyn y lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd36

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r asiantaeth fabwysiadu —

a

wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34 i leoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol; a

b

wedi cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd i ystyried y trefniadau y mae'n bwriadu eu gwneud er mwyn lleoli'r plentyn gydag ef.

2

Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, o leiaf 7 niwrnod cyn lleoli'r plentyn gyda'r darpar fabwysiadydd, roi cynllun lleoli i'r darpar fabwysiadydd ynglyn â'r plentyn sy'n ymdrin â'r materion a bennir yn Atodlen 6 (“y cynllun lleoliad”).

3

Os yw paragraff (1) yn gymwys ac mae'r plentyn eisoes yn byw gyda'r darpar fabwysiadydd, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu roi i'r darpar fabwysiadydd y cynllun lleoliad ynglyn â'r plentyn o fewn 7 niwrnod ar ôl iddo benderfynu lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

4

Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, cyn iddo leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd—

a

hysbysu ymarferydd cyffredinol y darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'r lleoliad arfaethedig ac anfon gyda'r hysbysiad hwnnw adroddiad ysgrifenedig o hanes iechyd y plentyn a chyflwr presennol ei iechyd;

b

hysbysu'r awdurdod lleol (os nad yr awdurdod hwnnw yw'r asiantaeth fabwysiadu) a'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol (Lloegr) y mae'r darpar fabwysiadydd yn preswylio yn ei ardal yn ysgrifenedig o'r lleoliad arfaethedig;

c

hysbysu'r awdurdod addysg lleol y mae'r darpar fabwysiadydd yn preswylio yn ei ardal yn ysgrifenedig o'r lleoliad arfaethedig a gwybodaeth am hanes addysgol y plentyn ac a gafodd neu a yw'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996.

5

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn y cynllun lleoliad.

6

Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, cyn i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan y darpar fabwysiadydd, drefnu i'r darpar fabwysiadydd gyfarfod â'r plentyn ac yn dilyn y cyfarfod hwnnw gwnsela'r darpar fabwysiadydd ac, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, gwnsela'r plentyn am y lleoliad arfaethedig.

7

Os bydd y darpar fabwysiadydd, ar ôl dilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6), yn cadarnhau'n ysgrifenedig ei fod yn dymuno mynd rhagddo â'r lleoliad, ac os awdurdodir yr asiantaeth fabwysiadu i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu os yw'r plentyn yn iau na chwe wythnos oed, caiff yr asiantaeth fabwysiadu leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

8

Os yw'r plentyn eisoes yn byw gyda'r darpar fabwysiadydd, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y lleolir y plentyn yno gan yr asiantaeth ar gyfer ei fabwysiadu.