RHAN 5DYLETSWYDDAU'R ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN LLEOLIAD ARFAETHEDIG PLENTYN GYDA DARPAR FABWYSIADYDD

Swyddogaeth yr asiantaeth fabwysiadu mewn achos adran 8335

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn achos adran 83 os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn cael gwybodaeth gan yr awdurdod tramor perthnasol ynghylch plentyn sydd i'w fabwysiadu gan ddarpar fabwysiadydd y mae'r asiantaeth wedi ei gymeradwyo fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn.

2

Os yw paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu—

a

anfon copi o'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at y darpar fabwysiadydd onid yw'n gwybod bod y darpar fabwysiadydd wedi cael copi;

b

ystyried yr wybodaeth honno;

c

cyfarfod y darpar fabwysiadydd i drafod yr wybodaeth; ac

ch

os yw'n briodol, darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y darpar fabwysiadydd ac unrhyw wybodaeth bellach iddo yn ôl y gofyn.