RHAN 5DYLETSWYDDAU'R ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN LLEOLIAD ARFAETHEDIG PLENTYN GYDA DARPAR FABWYSIADYDD

Swyddogaeth y panel mabwysiadu o ran lleoliad arfaethedig33

1

Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried y lleoliad arfaethedig a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol hwnnw.

2

Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, rhaid i'r panel mabwysiadu roi sylw i'r dyletswyddau a osodwyd ar yr asiantaeth fabwysiadu o dan adran 1(2), (4) a (5) o'r Ddeddf (ystyriaethau sy'n gymwys wrth arfer pwerau o ran mabwysiadu plentyn) ac —

a

rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 32;

b

caiff ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol; ac

c

rhaid iddo gael cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.

3

Rhaid i'r panel mabwysiadu hefyd ystyried a chaiff, os yw'r panel yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol hwnnw, ystyried rhoi cyngor ar yr un pryd i'r asiantaeth fabwysiadu ynghylch —

i

os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol, cynigion yr awdurdod i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu;

ii

y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;

iii

a ddylid gwneud cais am orchymyn lleoliad; a

iv

os awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu a ydyw'n ystyried y dylid cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant unrhyw berson ac, os felly, i ba raddau.

4

Caiff y panel mabwysiadu wneud yr argymhelliad ym mharagraff (1) ond ddim ond —

a

os yw'r argymhelliad hwnnw i gael ei wneud yn yr un cyfarfod o'r panel mabwysiadu lle cafodd argymhelliad ei wneud y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu; neu

b

os yw'r asiantaeth fabwysiadu neu asiantaeth fabwysiadu arall wedi gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 19 y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu;

ac yn y naill achos a'r llall bod yr argymhelliad i'w wneud yn yr un cyfarfod o'r panel y cafodd argymhelliad ei wneud bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn neu fod yr asiantaeth fabwysiadu, neu asiantaeth fabwysiadu arall, wedi gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 28 fod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.