- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
33.—(1) Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried y lleoliad arfaethedig a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol hwnnw.
(2) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, rhaid i'r panel mabwysiadu roi sylw i'r dyletswyddau a osodwyd ar yr asiantaeth fabwysiadu o dan adran 1(2), (4) a (5) o'r Ddeddf (ystyriaethau sy'n gymwys wrth arfer pwerau o ran mabwysiadu plentyn) ac —
(a)rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 32;
(b)caiff ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol; ac
(c)rhaid iddo gael cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.
(3) Rhaid i'r panel mabwysiadu hefyd ystyried a chaiff, os yw'r panel yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd penodol hwnnw, ystyried rhoi cyngor ar yr un pryd i'r asiantaeth fabwysiadu ynghylch —
(i)os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol, cynigion yr awdurdod i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu;
(ii)y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;
(iii)a ddylid gwneud cais am orchymyn lleoliad; a
(iv)os awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu a ydyw'n ystyried y dylid cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant unrhyw berson ac, os felly, i ba raddau.
(4) Caiff y panel mabwysiadu wneud yr argymhelliad ym mharagraff (1) ond ddim ond —
(a)os yw'r argymhelliad hwnnw i gael ei wneud yn yr un cyfarfod o'r panel mabwysiadu lle cafodd argymhelliad ei wneud y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu; neu
(b)os yw'r asiantaeth fabwysiadu neu asiantaeth fabwysiadu arall wedi gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 19 y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu;
ac yn y naill achos a'r llall bod yr argymhelliad i'w wneud yn yr un cyfarfod o'r panel y cafodd argymhelliad ei wneud bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn neu fod yr asiantaeth fabwysiadu, neu asiantaeth fabwysiadu arall, wedi gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 28 fod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: