- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
32.—(1) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “y lleoliad arfaethedig”) rhaid i'r asiantaeth —
(a)rhoi i'r darpar fabwysiadydd adroddiad am y plentyn a rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 5 ac unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol;
(b)cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd i drafod y lleoliad arfaethedig;
(c)canfod barn y darpar fabwysiadydd am —
(i)y lleoliad arfaethedig;
(ii)anghenion asesedig y plentyn ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r cynllun cymorth mabwysiadu;
(iii)y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson; a
phan fo'n gymwys, unrhyw gyfyngiad wrth arfer ei gyfrifoldeb rhiant.
(ch)darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y darpar fabwysiadydd ac unrhyw wybodaeth bellach iddo yn ôl y gofyn.
(2) Os dilynwyd y gweithdrefnau a nodir ym mharagraff (1) ac os yw'r darpar fabwysiadydd wedi cadarnhau i'r asiantaeth yn ysgrifenedig ei fod yn barod i gytuno ar y lleoliad arfaethedig, rhaid i'r asiantaeth mewn achosion o'r fath ac os yw'n ystyried ei bod yn briodol i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, gwnsela'r plentyn a dweud wrth y plentyn am y darpar fabwysiadwyr, eu hamgylchiadau teuluol ac awyrgylch eu cartrefi a chanfod barn y plentyn am y lleoliad arfaethedig, y trefniadau cyswllt ac unrhyw gyfyngiad ar gyfrifoldeb rhiant y darpar fabwysiadydd.
(3) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn y dylai'r lleoliad arfaethedig fynd rhagddo, rhaid i'r asiantaeth—
(a)os yw'r asiantaeth yn awdurdod lleol, gwneud asesiad o anghenion y plentyn a'r darpar deulu mabwysiadol ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 4(6) o'r Ddeddf;
(b)ystyried y trefniadau ar gyfer caniatáu cyswllt gan unrhyw berson â'r plentyn;
(c)ystyried a ddylid cyfyngu i unrhyw raddau ar gyfrifoldeb unrhyw riant neu warcheidwad, neu ddarpar fabwysiadwyr;
(ch)paratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—
(i)rhesymau'r asiantaeth dros gynnig y lleoliad;
(ii) yr wybodaeth a gafwyd yn rhinwedd paragraffau (1) a (2);
(iii)os yw'r asiantaeth yn awdurdod lleol, ei gynigion ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, os o gwbl, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 4(6) o'r Ddeddf;
(iv)y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;
(v)cynigion yr asiantaeth i gyfyngu ar gyfrifoldeb unrhyw riant neu warcheidwad, neu ddarpar fabwysiadydd; a
(vi)unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r lleoliad arfaethedig.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd bod y lleoliad arfaethedig i'w atyfeirio at y panel mabwysiadu ac anfon at y darpar fabwysiadydd gopi o adroddiad yr asiantaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (3) a gwahodd unrhyw sylwadau ar yr adroddiad i'w hanfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.
(5) Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4) (neu'n gynharach os ceir sylwadau cyn bod 10 niwrnod gwaith wedi mynd heibio) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon —
(a)yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3);
(b)yr adroddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 17;
(c)yr adroddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 26 ac unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd ar yr adroddiad hwnnw;
(ch)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a gafwyd gan yr asiantaeth o dan y rheoliad hwn
at y panel mabwysiadu.
(6) Ni chaiff yr asiantaeth fabwysiadu ond atgyfeirio at y panel mabwysiadu ei chynnig i leoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol yn unig os ymgynghorwyd ag unrhyw asiantaeth fabwysiadu arall sydd wedi gwneud penderfyniad yn unol â'r Rheoliadau hyn y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu, neu os yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, ynghylch y lleoliad arfaethedig.
(7) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn cynnig lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd penodol, rhaid i'r asiantaeth ddechrau cofnodion achos mewn unrhyw achos os nad yw eisoes wedi dechrau cofnodion o'r fath a rhoi yn y cofnod priodol unrhyw wybodaeth, adroddiad, argymhelliad neu benderfyniad a atgyfeiriwyd ati gan asiantaeth fabwysiadu arall ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall sydd i'w hanfon at y panel mabwysiadu yn rhinwedd y rheoliad hwn ynglyn â hwy.
(8) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall o ran y lleoliad arfaethedig, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: