RHAN 4DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Adolygiadau a therfynu cymeradwyaeth30

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu adolygu cymeradwyaeth pob darpar fabwysiadydd yn unol â'r rheoliad hwn, oni bai—

a

mewn achos adran 83, bod y darpar fabwysiadydd wedi ymweld â'r plentyn yn y wlad lle mae'r plentyn yn arferol yn preswylio ynddi a'i fod wedi cadarnhau'n ysgrifenedig ei fod yn mynd ymlaen â'r mabwysiadu; a

b

mewn unrhyw achos arall, bod y plentyn wedi'i leoli ar gyfer mabwysiadu gyda'r darpar fabwysiadydd.

2

Rhaid i adolygiad ddigwydd pryd bynnag y bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei fod yn angenrheidiol ond fel arall ddim mwy na dwy flynedd ar ôl cymeradwyaeth ac yna ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na dwy flynedd.

3

Wrth ymgymryd ag adolygiad o'r fath rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

a

gwneud yr ymholiadau hynny a chael gafael ar yr wybodaeth honno y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol er mwyn adolygu a yw'r darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn; a

b

gofyn am farn y darpar fabwysiadydd a'i hystyried.

4

Fel rhan o bob adolygiad rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried—

a

pam na leolwyd unrhyw blentyn hyd yn hyn gyda'r darpar fabwysiadydd;

b

unrhyw drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu ac a ddylent barhau neu gael eu haddasu;

c

pan ddychwelir plentyn at yr asiantaeth fabwysiadu yn unol ag adran 35(1) neu (2) o'r Ddeddf, y rhesymau dros ddychwelyd y plentyn; ac

ch

a yw'r darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn.

5

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

a

nodi'n ysgrifenedig y trefniadau sy'n llywodraethu dull cyflawni'r adolygiad ar ddarpar fabwysiadydd a rhaid dwyn y trefniadau ysgrifenedig i sylw—

i

y darpar fabwysiadydd; a

ii

unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol,

b

sicrhau bod—

i

yr wybodaeth a gafwyd ynglŷn â'r darpar fabwysiadydd;

ii

manylion y trafodion mewn unrhyw gyfarfod a drefnwyd gan yr asiantaeth i ystyried unrhyw agwedd o'r adolygiad; a

iii

manylion unrhyw benderfyniad a wnaed yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo,

yn cael eu cofnodi'n ysgrifenedig a'u rhoi yng nghofnod achos y darpar fabwysiadydd.

6

Ar ddiwedd yr adolygiad, os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad yw'r darpar fabwysiadydd bellach yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddi baratoi adroddiad ysgrifenedig y mae'n rhaid iddo gynnwys —

a

yr wybodaeth a gafwyd ar y materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3) a (4);

b

rhesymau'r asiantaeth; ac

c

unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried sy'n berthnasol.

7

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd fod yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) i gael ei atyfeirio at y panel mabwysiadu a rhoi copi i'r darpar fabwysiadydd o'r adroddiad hwnnw, a gwahodd sylwadau ar yr adroddiad sydd i'w hanfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

8

Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (7) (neu'n gynharach os daw unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd i law cyn i'r 10 niwrnod gwaith ddod i ben) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon copi o'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6), ynghyd â sylwadau'r darpar fabwysiadydd a'r adroddiad a gafodd ei baratoi ar gyfer y panel o dan reoliad 26(4).

9

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

10

Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried yr adroddiad ac unrhyw wybodaeth arall a roddwyd iddo gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan y rheoliad hwn a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth a yw'r darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn.

11

Mae rheoliad 28 yn gymwys o ran y penderfyniad gan yr asiantaeth fabwysiadu ynghylch a yw darpar fabwysiadydd yn parhau i fod yn addas i fabwysiadu plentyn fel y mae'n gymwys o ran y penderfyniad gan yr asiantaeth ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.