RHAN 2ASIANTAETH FABWYSIADU — TREFNIADAU AR GYFER GWAITH MABWYSIADU

Sefydlu panel mabwysiadu3

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sefydlu o leiaf un panel, a elwir y panel mabwysiadu, yn unol â'r rheoliad hwn.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi person i gadeirio'r panel, sef person na fu'n aelod etholedig, ymddiriedolwr, cyfarwyddwr neu'n gyflogai o'r asiantaeth o fewn y 12 mis diwethaf, sydd â'r sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer cadeirio'r panel mabwysiadu.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid bod dim mwy na deg aelod i'r panel mabwysiadu, gan gynnwys y person a benodwyd o dan baragraff (2), a rhaid iddo gynnwys —

a

dau weithiwr cymdeithasol;

b

yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, person sy'n gyfarwyddwr, rheolwr neu'n swyddog arall o'r asiantaeth sy'n ymwneud â rheolaeth yr asiantaeth;

c

yn achos awdurdod lleol, un aelod etholedig o'r awdurdod;

ch

y person a benodwyd fel cynghorydd meddygol i'r asiantaeth yn unol â rheoliad 9, (neu un ohonynt os penodwyd mwy nag un cynghorydd meddygol), tra pery'r person hwnnw'n gynghorydd meddygol;

d

o leiaf dri pherson arall (y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn fel “personau annibynnol”) gan gynnwys lle y bo'n rhesymol ymarferol o leiaf ddau berson â phrofiad personol o fabwysiadu.

4

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benodi dau o aelodau'r panel mabwysiadu y bydd y naill neu'r llall yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).

5

Caniateir sefydlu'r panel mabwysiadu ar y cyd gan unrhyw ddau awdurdod lleol ond dim mwy na thri awdurdod lleol (“panel mabwysiadu ar y cyd”) ac os sefydlir panel mabwysiadu ar y cyd—

a

mwyafswm nifer y personau y gellir eu penodi i'r panel hwnnw yw un ar ddeg;

b

rhaid i bob awdurdod lleol benodi dau berson i'r panel, y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn weithiwr cymdeithasol a rhaid i'r llall fod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw;

c

drwy gytundeb rhwng yr awdurdodau lleol rhaid penodi—

i

person i gadeirio'r panel nad yw'n aelod etholedig o unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y panel ac y mae ganddo'r sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i gadeiro'r panel mabwysiadu;

ii

o leiaf dri aelod annibynnol gan gynnwys lle y bo'n rhesymol ymarferol o leiaf ddau berson â phrofiad personol o fabwysiadu;

iii

dau o aelodau'r panel y bydd y naill neu'r llall yn gweithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw ei swydd yn wag (“yr is-gadeirydd”).

iv

cynghorydd meddygol i un o'r awdurdodau.

6

Rhaid peidio â phenodi person yn berson annibynnol ar banel mabwysiadu os yw'r person hwnnw—

a

yn cael ei gyflogi neu wedi cael ei gyflogi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf —

i

yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, gan yr asiantaeth honno; neu

ii

yn achos awdurdod lleol, gan yr awdurdod hwnnw i gyflawni unrhyw swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw;

b

yn aelod etholedig neu wedi bod yn aelod etholedig o'r awdurdod hwnnw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf;

c

yn ymddiriedolwr neu wedi bod yn ymddiriedolwr yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu os yw wedi ymwneud â rheolaeth yr asiantaeth honno;

ch

yn rhiant mabwysiadol y mae'r asiantaeth wedi lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gydag ef neu berson y mae'r asiantaeth wedi ei gymeradwyo yn berson addas i fod yn rhiant mabwysiadol onid oes o leiaf ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud ynglyn â'r plentyn;

d

os yw'n perthyn—

i

yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, i berson a gyflogir gan yr asiantaeth honno; neu

ii

yn achos awdurdod lleol, i berson a gyflogir gan yr awdurdod hwnnw i gyflawni unrhyw un o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw.

7

At ddibenion paragraff (6)(d) mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A —

a

yn aelod o aelwyd person B neu'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B;

b

yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i berson B; neu

c

yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd i'r person sy'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B.