RHAN 4DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Gwybodaeth sydd i'w hanfon at y panel adolygu annibynnol29

1

Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn cael hysbysiad oddi wrth y panel adolygu annibynnol bod darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais am adolygiad o'r dyfarniad cymwys, rhaid i'r asiantaeth, o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl derbyn yr hysbysiad hwnnw, anfon at y panel adolygu annibynnol yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2)15.

2

Mae'r wybodaeth ganlynol yn un a bennir at ddibenion paragraff (1) —

a

yr holl adroddiadau a gwybodaeth a anfonwyd at y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 26;

b

unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan y darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 26(6);

c

unrhyw adroddiadau eraill neu wybodaeth arall a anfonwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at y panel mabwysiadu;

ch

cofnod o drafodion y panel mabwysiadu, ei argymhellion a'i resymau dros ei argymhellion;

d

yr hysbysiad, ynghyd â'r rhesymau a anfonwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at y darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 28(4)(a) a (b).