RHAN 4DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu28

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried argymhelliad y panel mabwysiadu wrth ddod i benderfyniad ynghylch a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

2

Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).

3

Os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iddi hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad.

4

Os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn nad yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid iddi—

a

hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig nad yw'n bwriadu cymeradwyo'r darpar fabwysiadydd fel rhywun addas i fabwysiadu plentyn (“dyfarniad o gymhwyster”);

b

anfon gyda'r hysbysiad hwnnw ei rhesymau ynghyd â chopi o argymhelliad y panel mabwysiadu, os ydynt yn wahanol;

c

cynghori'r darpar fabwysiadydd y caiff o fewn 20 niwrnod gwaith gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad y caiff y darpar fabwysiadydd—

i

cyflwyno unrhyw sylwadau i'r asiantaeth, neu

ii

wneud cais i'r panel adolygu annibynnol i adolygu'r dyfarniad cymwys.

5

O fewn y cyfnod o 20 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4), os na fydd y darpar fabwysiadydd wedi gwneud unrhyw sylwadau neu wedi gwneud cais i banel adolygu annibynnol, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu fynd rhagddi i wneud ei phenderfyniad a rhaid iddi hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad ynghyd â'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

6

O fewn y cyfnod o 20 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (4), os bydd yr asiantaeth fabwysiadu wedi cael sylwadau pellach oddi wrth y darpar fabwysiadydd, caiff atgyfeirio'r achos ynghyd â'r holl wybodaeth berthnasol yn ôl at eu panel mabwysiadu ar gyfer ystyriaeth bellach.

7

Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried unrhyw achos a atgyfeirir ato o dan baragraff (6) a gwneud argymhelliad o'r newydd i'r asiantaeth fabwysiadu o ran a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.

8

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu benderfynu'r achos ond os atgyfeiriwyd yr achos at y panel mabwysiadu o dan baragraff (6) neu os yw'r darpar fabwysiadydd wedi gwneud cais i'r panel adolygu annibynnol am adolygiad o'r dyfarniad o gymhwyster rhaid iddo benderfynu ond dim ond ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw argymhelliad gan y panel mabwysiadu a wnaed o dan baragraff (7) a rheoliad 27 neu, yn ôl y digwydd, gan y panel adolygu annibynnol.

9

Cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud ei phenderfyniad o dan baragraff (8), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yn ysgrifenedig o'i phenderfyniad gan ddatgan ei rhesymau dros y penderfyniad hwnnw os yw o'r farn nad yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, ac o argymhelliad y panel mabwysiadu o dan baragraff (7), os yw hwn yn wahanol i benderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu.