- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
27.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried achos y darpar fabwysiadydd a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth honno a yw'r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn.
(2) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, o ran y panel mabwysiadu—
(a)rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 26;
(b)caiff ofyn i'r asiantaeth gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol; ac
(c)rhaid iddo gael y cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.
(3) Pan fydd y panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu bod y darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn, caiff ystyried ac ar yr un pryd caiff gynghori'r asiantaeth am y nifer o blant y gall y darpar fabwysiadydd fod yn addas i'w mabwysiadu, ystod eu hoedran, eu rhyw a'u nodweddion (iechyd a chymdeithasol).
(4) Cyn gwneud unrhyw argymhelliad, rhaid i'r panel mabwysiadu wahodd y darpar fabwysiadwyr i ddod i gyfarfod a gynhelir gan y panel.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: