RHAN 4DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Gweithdrefnau o ran gwneud asesiad26

1

Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu, wedi iddo ddilyn y gweithdrefnau y cyfeirir atynt yn rheoliad 23 a 25, o'r farn y gallai'r darpar fabwysiadydd fod yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol, rhaid iddi gynnal asesiad yn unol â'r rheoliad hwn.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael y manylion hynny am y darpar fabwysiadydd y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 4.

3

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael —

a

adroddiad ysgrifenedig gan ymarferydd meddygol cofrestredig am iechyd y darpar fabwysiadydd y mae'n rhaid iddo ymdrin â'r materion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 4 oni chafodd adroddiad o'r fath ei lunio o fewn 6 mis ar ôl i'r panel ystyried yr achos o dan reoliad 27 a'i fod ar gael i'r asiantaeth;

b

adroddiad ysgrifenedig am bob un o'r cyfweliadau gyda'r personau a enwebwyd gan y darpar fabwysiadydd yn ganolwyr personol; ac

c

adroddiad ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol y mae'r darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal, a phan fo'r darpar fabwysiadydd wedi byw yn yr ardal honno am gyfnod llai na deuddeng mis rhaid i'r asiantaeth gael adroddiad ysgrifenedig hefyd gan yr awdurdod lleol yr oedd y darpar fabwysiadydd yn byw yn ei ardal cyn hynny.

4

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu baratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—

a

manylion am y darpar fabwysiadydd fel a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 4;

b

crynodeb, a ysgrifenwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, ar gyflwr iechyd y darpar fabwysiadydd;

c

asesiad yr asiantaeth ar addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn, ac wrth benderfynu addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth roi sylw priodol i'r angen am gysondeb a sefydlogrwydd yn eu perthynas;

ch

unrhyw wybodaeth berthnasol y caiff yr asiantaeth afael arni o dan baragraff (3)(c);

d

unrhyw sylwadau gan yr asiantaeth ar y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 22, 23 a 25;

dd

unrhyw wybodaeth arall y mae'r asiantaeth yn ystyried sy'n berthnasol.

5

Mewn achos adran 83 rhaid i'r adroddiad gynnwys —

a

enw'r wlad (“tarddwlad”) y mae'r darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu ohoni;

b

cadarnhad bod y darpar fabwysiadydd yn bodloni'r gofynion cymhwyster i fabwysiadu o'r darddwlad;

c

gwybodaeth ychwanegol a gafwyd o ganlyniad i ofynion y darddwlad; ac

ch

asesiad yr asiantaeth o addasrwydd y darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn sy'n preswylio'n arferol y tu allan i Ynysoedd Prydain.

6

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hysbysu'r darpar fabwysiadydd yr atgyfeirir ei gais at y panel mabwysiadu ac ar yr un pryd yr anfonir copi at y darpar fabwysiadydd o adroddiad yr asiantaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (4), a gwahodd unrhyw sylwadau ar yr adroddiad sydd i'w anfon yn ysgrifenedig at yr asiantaeth o fewn 10 niwrnod gwaith, gan ddechrau ar y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

7

Ar ddiwedd y cyfnod o 10 diwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (6) (neu'n gynharach os ceir unrhyw sylwadau a wnaed gan y darpar fabwysiadydd cyn bod 10 niwrnod gwaith wedi mynd heibio) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon —

a

yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4), ynghyd ag unrhyw sylwadau a roddwyd gan y darpar fabwysiadydd o dan baragraff (6);

b

yr adroddiadau ysgrifenedig y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); ac

c

unrhyw wybodaeth arall berthnasol a gafwyd gan yr asiantaeth o dan y rheoliad hwn

at y panel mabwysiadu.

8

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ei gwneud yn ofynnol ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.