- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25.—(1) Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried a yw person yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth wneud trefniadau i'r darpar fabwysiadydd gael y paratoad hwnnw ar gyfer mabwysiadu y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn briodol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r asiantaeth fabwysiadu wedi'i bodloni bod y gofynion a nodir yn y paragraff hwnnw wedi cael eu cyflawni o ran y darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu arall.
(3) Pan na fydd y darpar fabwysiadydd yn barod i ymgymryd â'r paratoad ar gyfer mabwysiadu y mae'r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried ei fod yn briodol yn ei achos ef, caniateir i'r asiantaeth wrthod mynd ymlaen â chais y darpar fabwysiadydd am asesiad o'i addasrwydd.
(4) Ym mharagraff (1) mae “paratoad ar gyfer mabwysiadu” yn cynnwys darparu gwybodaeth i ddarpar fabwysiadydd ynghylch —
(a)ystod oedran, rhyw ac anghenion tebygol a chefndir plant y gellid eu lleoli ar gyfer mabwysiadu gan yr asiantaeth fabwysiadu;
(b)arwyddocâd a goblygiadau cyfreithiol mabwysiadu i blentyn a'i deulu;
(c)cyswllt rhwng plentyn a'i rieni naturiol a pherthnasau eraill pan awdurdodir lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu neu pan gaiff y plentyn ei fabwysiadu;
(ch)y sgiliau sydd eu hangen i fod yn rhiant mabwysiadol;
(d)safbwynt y plentyn a theulu'r plentyn;
(dd)gweithdrefnau'r asiantaeth fabwysiadu o ran asesu darpar fabwysiadwyr a lleoli plentyn ar gyfer mabwysiadu; a
(e)y weithdrefn o ran mabwysiadu a lleoli ar gyfer mabwysiadu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: