RHAN 4DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Gofyniad i wneud gwiriadau gyda'r heddlu23

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael y canlynol —

a

o ran y darpar fabwysiadydd, tystysgrif record droseddol fanwl yn ôl ystyr adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 199711 gan gynnwys y materion a bennir yn is-adran (6A) o'r adran honno; a

b

o ran unrhyw aelod arall o aelwyd y darpar fabwysiadydd sy'n 18 oed neu drosodd, tystysgrif record droseddol fanwl o dan adran 115 o'r Ddeddf honno gan gynnwys y materion a bennir yn is-adran (6A) o'r adran honno.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu beidio ag ystyried person yn addas i fabwysiadu plentyn neu, yn ôl y digwydd, rhaid iddi ystyried nad yw person bellach yn addas i fabwysiadu plentyn, os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw sy'n 18 oed neu drosodd —

a

wedi'i gollfarnu o dramgwydd benodedig a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd; neu

b

os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad iddo.

3

Ym mharagraff (2) ystyr “tramgwydd penodedig” yw —

a

tramgwydd yn erbyn plentyn;

b

tramgwydd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;

c

tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 197912 o ran nwyddau y gwaharddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau ynghylch pornograffi)13 os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed;

ch

unrhyw dramgwydd arall sy'n cynnwys anaf corfforol i blentyn, ac eithrio tramgwydd ymosodiad cyffredin neu guro,

ac mae i'r ymadrodd “tramgwydd yn erbyn plentyn” yr ystyr a roddir i “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 200014 ac eithrio nad yw'n cynnwys tramgwydd yn groes i adran 9 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 2003 (gweithgaredd rhywiol â phlentyn) mewn achos lle'r oedd y tramgwyddwr o dan 20 oed a'r plentyn yn 13 oed neu drosodd adeg cyflawni'r tramgwydd.

4

Ni chaiff asiantaeth fabwysiadu ystyried bod person yn addas i fabwysiadu plentyn neu, yn ôl y digwydd, rhaid iddi ystyried nad yw person bellach yn addas i fabwysiadu plentyn, os yw'r person neu unrhyw aelod o aelwyd y person hwnnw sy'n 18 oed neu drosodd —

a

wedi'i gollfarnu o dramgwydd a bennir ym mharagraff 1 o Ran 2 o Atodlen 3 a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os cafodd rybuddiad gan gwnstabl o ran unrhyw dramgwydd o'r fath, y cyfaddefodd y person i'r tramgwydd pan roddwyd y rhybuddiad iddo; neu

b

yn dod o fewn paragraff 2 neu 3 o Ran 2 o Atodlen 3,

er bod y tramgwyddau statudol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 wedi'u diddymu.