RHAN 4DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU O RAN DARPAR FABWYSIADYDD

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth21

Pan fydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried a yw person yn addas i fabwysiadu plentyn, rhaid i'r asiantaeth —

a

darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y darpar fabwysiadydd;

b

mewn achos adran 83, esbonio i'r darpar fabwysiadydd y weithdrefn o ran mabwysiadu plentyn o'r wlad y mae'r darpar fabwysiadydd yn dymuno mabwysiadu ohoni a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny;

c

mewn unrhyw achos arall esbonio i'r darpar fabwysiadydd y weithdrefn o ran lleoli ar gyfer mabwysiadu (gan gynnwys lleoliad drwy gydsyniad o dan adran 19 o'r Ddeddf, cydsyniad i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, cyfyngu cyfrifoldeb rhiant a gorchmynion lleoliad) a mabwysiadu a goblygiadau cyfreithiol gwneud hynny; a

ch

rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i'r darpar fabwysiadydd ynglyn â'r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) neu, yn ôl y digwydd, (c).