RHAN 3DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU OS YW'R ASIANTAETH YN YSTYRIED MABWYSIADU AR GYFER PLENTYN

Cais i benodi swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS20

1

Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) ac, yn ôl y digwydd, yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi un o'i swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru10 neu, pan fydd y plentyn yn arferol yn preswylio yn Lloegr, ofyn i CAFCASS benodi un o'i swyddogion er mwyn iddo gymeradwyo'r cydsyniad i'r lleoli neu i'r mabwysiadu ac, wrth ofyn, anfon hefyd yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu o ran y plentyn gadw'r canlynol yn y cofnod achos a gynhelir yn unol â rheoliad 12 —

a

y ffurflen gydsynio wedi'i llofnodi'n briodol gan y rhiant neu'r gwarcheidwad a swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS yn dyst i hynny;

b

unrhyw hysbysiad a roddir i'r asiantaeth o dan adran 20(4)(a) o'r Ddeddf (datganiad na ddymunir cael hysbysiad o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu); ac

c

hysbysiad tynnu'n ôl unrhyw gydsyniad neu ddatganiad a roddwyd o dan adrannau 19 neu 20 o'r Ddeddf.