RHAN 1CYFFREDINOL

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “achos adran 83” (“section 83 case”) yw achos lle bo person yn bwriadu dod â phlentyn, neu'n peri bod rhywun arall yn dod â phlentyn, i'r Deyrnas Unedig mewn amgylchiadau lle y mae adran 83 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar ddod â phlant i'r Deyrnas Unedig) yn gymwys;

  • mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” yn adran 2(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru3;

  • ystyr “awdurdod tramor perthnasol” (“relevant foreign authority”) yw person, sydd y tu allan i Ynysoedd Prydain yn cyflawni swyddogaethau yn y wlad lle y mae'r plentyn, neu yn lle y mae'r darpar fabwysiadydd yn preswylio'n arferol, sy'n cyfateb i swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu neu i swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran mabwysiadau ag elfen dramor iddynt;

  • ystyr “CAFCASS” yw y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd4;

  • yn y rheoliadau hyn, mae'r termau “cyflogi” a “chyflogaeth” yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio a boed o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu mewn modd nad yw o dan gontract;

  • mae i “cymdeithas fabwysiadu gofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered adoption society” yn adran 2(2) o'r Ddeddf;

  • mae i “cynghorydd asiantaeth” (“agency adviser”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 8;

  • ystyr “cynghorydd meddygol” (“medical adviser”) yw'r person a benodwyd yn gynghorydd meddygol gan yr asiantaeth fabwysiadu yn unol â rheoliad 9;

  • mae i “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 36(2);

  • mae i “cynllun lleoliad mabwysiadu” (“adoption placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 36;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn wyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19715.

  • mae i “dyfarniad o gymhwyster” (“qualifying determination”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 28(4)(a);

  • mae i “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) yr ystyr a roddir yn adran 2(6) o'r Ddeddf ac mewn rheoliadau a wneir o dan adran 2(6)(b) o'r Ddeddf;

  • Mae i “gwasanaeth mabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption service” gan adran 2(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person a gofrestrwyd mewn cofrestr a gynhelir gan Gyngor Gofal Cymru neu'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 20006 neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

  • ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu yn ysgrifenedig;

  • mae i “lleoliad arfaethedig” (“proposed placement”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 32(1);

  • ystyr “panel adolygu annibynnol” (“independent review panel”) yw panel a ffurfiwyd o dan adran 12 o'r Ddeddf;

  • ystyr “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3;

  • ystyr “panel mabwysiadu ar y cyd” (“joint adoption panel”) yw panel a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3(5);

  • mae i “person annibynnol” (“independent person”) o ran panel mabwysiadu yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3;

  • ystyr “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yw unrhyw riant sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn o dan Ddeddf 1989.

  • mae i “swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” yn adran 35(4) o Ddeddf Plant 20047); ac

  • mae i “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol” yr ystyr a roddir i “social services functions” yn adran 1A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970.