RHAN 3DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU OS YW'R ASIANTAETH YN YSTYRIED MABWYSIADU AR GYFER PLENTYN

Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu19

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

a

ystyried argymhelliad y panel mabwysiadu;

b

ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 18(3); ac

c

rhoi sylw i'r ystyriaeth a nodir yn adran 1(2) o'r Ddeddf

wrth benderfynu a ddylid lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

2

Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).

3

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, os yw eu cyfeiriad yn hysbys i'r asiantaeth, hysbysu ei phenderfyniad yn ysgrifenedig a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu unrhyw benderfyniad ynglyn â threfniadau cyswllt i—

a

rhiant neu warcheidwad y plentyn;

b

unrhyw berthynas neu berson arwyddocaol arall yr ymgynghorodd yr asiantaeth ag ef o dan reoliad 14(1) gan gynnwys unrhyw berson y gall fod gorchymyn cyswllt ganddo o dan adran 8 o Ddeddf 1989 neu orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal) mewn grym yn union cyn yr awdurdodir yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; ac

c

os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn; ac

ch

rhaid i'r asiantaeth esbonio ei phenderfyniad i'r plentyn mewn modd priodol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn.

4

Oni wnaed cais y gellid gwneud gorchymyn gofal o ran y plentyn, nas penderfynwyd arno, neu os yw'r plentyn yn llai na 6 wythnos oed, rhaid i'r asiantaeth ganfod a yw rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod—

a

i gydsynio o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr a enwir yn y cydsyniad neu iddo gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gydag unrhyw ddarpar fabwysiadwyr y caiff yr asiantaeth eu dewis; a

b

ar yr un adeg i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsynio ymlaen llaw i fabwysiadu).

5

Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth esbonio a chadarnhau yn ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn —

a

y gellir tynnu unrhyw gydsyniad a roddir o dan adran 20 o'r Ddeddf yn ôl ond bydd y tynnu'n ôl hwnnw yn aneffeithiol os gwneir hynny ar ôl i gais am orchymyn mabwysiadu gael ei wneud;

b

drwy roi hysbysiad i'r asiantaeth caiff, ar yr adeg honno neu rywbryd wedyn, ddatgan nad yw'n dymuno cael ei hysbysu o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu; ac

c

caniateir tynnu'r cyfryw ddatganiad yn ôl.