RHAN 3DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU OS YW'R ASIANTAETH YN YSTYRIED MABWYSIADU AR GYFER PLENTYN

Gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y panel mabwysiadu17

1

Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried yn ngoleuni'r holl wybodaeth a gafwyd yn rhinwedd rheoliadau 12 i 16 mai mabwysiadu yw'r dewis gorau er mwyn sefydlogrwydd ar gyfer y plentyn, rhaid i'r asiantaeth baratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys —

a

yr wybodaeth am y plentyn a theulu'r plentyn a bennir yn Rhannau 1, 3 a 4 o Atodlen 1;

b

crynodeb, a ysgrifenwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, o gyflwr iechyd y plentyn, hanes ei iechyd ac unrhyw angen am ofal iechyd a all godi yn y dyfodol;

c

dymuniadau a theimladau'r plentyn ynglyn â'r materion a nodir yn rheoliad 13(1)(c);

ch

dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn, a phan fo rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn, ac unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol, ynghylch y materion a nodir yn rheoliad 14(1)(c);

d

barn yr asiantaeth fabwysiadu am angen y plentyn o ran cyswllt â'i riant neu ei warcheidwad neu berthynas arall neu ag unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol (gan gynnwys tad y plentyn pan fo rheoliad 14(2) yn gymwys) a'r trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud i ganiatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;

dd

asesiad o ddatblygiad emosiynol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad ac unrhyw anghenion cysylltiedig;

e

asesiad o gynneddf rhiant neu warcheidwad y plentyn i fod yn rhiant, ac os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad;

f

cronoleg o'r penderfyniadau a'r camau a gymerwyd gan yr asiantaeth ynglyn â'r plentyn;

ff

dadansoddiad o'r opsiynau am ofal y plentyn yn y dyfodol a gafodd eu hystyried gan yr asiantaeth a pham yr ystyrir mai lleoliad ar gyfer mabwysiadu yw'r dewis gorau; a

g

unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â'r adroddiadau eraill y mae eu hangen yn rhinwedd rheoliad 15 a 16 at y panel mabwysiadu.

3

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.