RHAN 3DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU OS YW'R ASIANTAETH YN YSTYRIED MABWYSIADU AR GYFER PLENTYN

Gofyniad i ddechrau cofnod achos i blentyn12

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drefnu cofnod achos o ran y plentyn a rhoi ynddo unrhyw wybodaeth a gafwyd ac unrhyw adroddiad, argymhelliad neu benderfyniad a wnaed yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

2

Os yw'r plentyn—

a

yn derbyn gofal; neu

b

yn cael llety o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989 (darparu llety gan gyrff gwirfoddol),

rhaid i'r awdurdod lleol neu, yn ôl y digwydd, y gymdeithas fabwysiadu gofrestredig gael gafael ar unrhyw wybodaeth y mae angen cael gafael arni gan yr asiantaeth yn rhinwedd y Rhan hon, o'r cofnodion a gynhelir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan Ddeddf 1989, a rhoi'r wybodaeth honno yn y cofnod achos y cyfeirir ato ym mharagraff (1).