- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
46.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys —
(a)pan awdurdodir awdurdod lleol i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; neu
(b)pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan awdurdod lleol yn llai na chwe wythnos oed.
(2) Pan fydd paragraff (1) yn gymwys—
(a)ni fydd adran 22(4) (b) o Ddeddf 1989 yn gymwys;
(b)bydd adran 22(4)(c) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe bai'r canlynol yn cael ei fewnosod yn lle'r is-baragraff hwnnw “(c) any prospective adopter with whom the local authority has placed the child for adoption.”;
(c)bydd adran 22(5)(b) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe bai'r geiriau “(4)(c) and (d)” yn cael eu mewnosod yn lle “(4)(b) to (d)”; ac
(ch)ni fydd paragraffau 15 a 21 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989 yn gymwys.
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan awdurdodir cymdeithas fabwysiadu gofrestredig i leoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu pan fydd plentyn a leolwyd ar gyfer ei fabwysiadu gan gymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn llai na 6 wythnos oed.
(4) Pan fydd paragraff (3) yn gymwys —
(a)bydd adran 61(2)(a) o Ddeddf 1989 yn effeithiol o ran y plentyn p'un a letyir ef gan neu ar ran y gymdeithas ai peidio;
(b)ni fydd adran 61(2)(b) o Ddeddf 1989 yn gymwys;
(c)bydd adran 61(2)(c) o Ddeddf 1989 yn gymwys fel pe mewnosodwyd yn lle'r is-baragraff hwnnw “(c) any prospective adopter with whom the registered adoption society has placed the child for adoption.”.
47.—(1) Os yw'r asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu o dan adran 27(2) o'r Ddeddf i wrthod caniatáu'r cyswllt a fyddai fel arall yn ofynnol yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth, cyn gynted ag y gwneir y penderfyniad, hysbysu'r personau a bennir ym mharagraff (4) yn ysgrifenedig o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod.
(2) Gellir peidio â dilyn telerau gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf drwy gytundeb rhwng yr asiantaeth fabwysiadu ac unrhyw berson y mae'r gorchymyn yn darparu cyswllt iddo â'r plentyn yn yr amgylchiadau canlynol ac yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol —
(a)os yw'r plentyn yn ddigon hen a'i fod yn deall digon, yn ddarostyngedig i gytundeb y plentyn;
(b)os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, yn ddarostyngedig i ymgynghori blaenorol â'r darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu; ac
(c)hysbysiad ysgrifenedig gan yr asiantaeth i'r personau a bennir ym mharagraff (4) o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod, o fewn saith niwrnod o'r cytundeb i beidio â dilyn telerau'r gorchymyn.
(3) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn amrywio neu'n atal unrhyw drefniadau a wnaed (heblaw o dan orchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf) er mwyn caniatáu cyswllt i unrhyw berson â'r plentyn, rhaid i'r asiantaeth hysbysu'r personau a bennir ym mharagraff (4) yn ysgrifenedig o'r rhannau hynny o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (5) yn ôl fel y barna'r asiantaeth bod angen i'r personau hynny gael gwybod.
(4) Mae'r personau canlynol yn rhai a bennir at ddibenion paragraffau (1) a (2) —
(a)y plentyn os yw'r asiantaeth fabwysiadu o'r farn ei fod yn ddigon hen a'i fod yn deall digon;
(b)rhiant y plentyn;
(c)rhiant neu warcheidwad y plentyn;
(ch)unrhyw berson y mae'r gorchymyn o dan adran 26 o'r Ddeddf yn darparu cyswllt iddo;
(d)unrhyw berson y caniataodd yr asiantaeth gyswllt iddo â'r plentyn;
(dd)os lleolir y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, y darpar fabwysiadydd;
(e)unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth o'r farn bod ei ddymuniadau a'i deimladau yn berthnasol.
(5) Mae'r wybodaeth ganlynol yn un a bennir at ddibenion paragraffau 1, 2 a 3 —
(a)penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu;
(b)dyddiad y penderfyniad;
(c)y rhesymau dros y penderfyniad;
(ch)pa hyd y pery'r penderfyniad (os yw'n gymwys).
48. Drwy hyn dirymir Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) 2001(1), Rheoliadau Mabwysiadu Plant o Wledydd Tramor (Cymru) (Diwygio) 2003(2) a Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003(3).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: