- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
40. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod y cofnodion achos a drefnwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 22 o ran plentyn neu ddarpar fabwysiadydd a bod cynnwys y cofnodion achos hynny bob amser yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel ac yn benodol bod mesurau priodol yn cael eu cymryd i rwystro'r cofnodion achos rhag cael eu lladrata, rhag datgelu nas awdurdodwyd, rhag colled neu ddistryw neu niwed iddynt neu i'w cynnwys.
41. Pan wneir gorchymyn mabwysiadu ynglyn â phlentyn rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw'r holl gofnodion achos a luniwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 22 am 100 mlynedd o leiaf. Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r asiantaeth gadw'r cofnodion achos am y cyfnod hwnnw y mae'n ystyried ei fod yn briodol.
42. Yn ddarostyngedig i reoliad 43, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drin unrhyw wybodaeth a geir, neu adroddiadau neu argymhellion neu benderfyniadau a wneir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn gyfrinachol.
43.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ddarparu'r mynediad hwnnw at ei chofnodion achos a datgelu'r wybodaeth honno sydd yn ei meddiant, y gallai fod ei hangen —
(a)i'r sawl sy'n cynnal ymchwiliad o dan adran 81 o Ddeddf 1989 (ymchwiliadau) neu adran 17 o'r Ddeddf (ymchwiliadau) at ddibenion ymchwiliad o'r fath;
(b)i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 74(5) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (datgeliad), i Gomisiynydd Plant Cymru at ddibenion unrhyw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno;
(ch)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 29(7) a 32(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (ymchwiliadau a datgeliad), i Gomisiynydd Gweinyddiaeth Leol yng Nghymru, at ddibenion unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf honno;
(d)i unrhyw berson a benodwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at ddibenion ystyriaeth gan yr asiantaeth o unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion);
(dd)i'r personau a'r awdurdodau gan y Rheoliadau hyn ac i'r graddau a bennir yn y Rheoliadau hyn;
(e)i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS at ddibenion cyflawni dyletswyddau'r swyddog o dan y Ddeddf;
(f)i lys y mae ganddo bŵer i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf 1989.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr asiantaeth fabwysiadu ddarparu'r mynediad hwnnw a datgelu'r wybodaeth honno sydd yn ei meddiant, fel y gwêl yn dda at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau fel asiantaeth fabwysiadu.
(3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw fynediad a ddarperir neu ddatgeliad a roir yn rhinwedd y rheoliad hwn.
44.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr asiantaeth fabwysiadu drosglwyddo copi o gofnod achos (neu ran ohono) i asiantaeth fabwysiadu arall pan fydd o'r farn fod hyn er lles plentyn neu ddarpar fabwysiadydd y mae'r cofnod yn ymwneud ag ef, a rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw drosglwyddiad o'r fath.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i gymdeithas fabwysiadu gofrestredig sy'n bwriadu peidio â gweithredu neu beidio â bod yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig drosglwyddo ar unwaith naill ai ei chofnodion achos i asiantaeth fabwysiadu arall ar ôl cael cymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru ar gyfer trosglwyddiad o'r fath neu drosglwyddo ei chofnodion achos —
(a)i'r awdurdod lleol y lleolir prif swyddfa'r gymdeithas yn ei ardal; neu
(b)yn achos cymdeithas sy'n cyfuno â chymdeithas fabwysiadu gofrestredig arall i ffurfio cymdeithas fabwysiadu gofrestredig newydd, i'r corff newydd hwnnw.
(3) Os yw cymdeithas fabwysiadu gofrestredig yn bwriadu peidio â darparu ar gyfer mabwysiadu plant ond ei bod wedi'i chofrestru i ddarparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu caiff gadw ei holl gofnodion achos ar ôl cael yn gyntaf gymeradwyaeth yr awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ar gyfer eu cadw.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu y trosglwyddir cofnodion achos iddi yn rhinwedd paragraff (2)(a) neu (b) hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o'r cyfryw drosglwyddiad.
45. Nid yw rheoliadau 41 i 43 yn gymwys i gofnodion achos sy'n ddarostyngedig i'r rheoliadau a wneir o dan adrannau 56 i 68 o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: