RHAN 3DYLETSWYDDAU ASIANTAETH FABWYSIADU OS YW'R ASIANTAETH YN YSTYRIED MABWYSIADU AR GYFER PLENTYN

Cymhwysiad rheoliadau 11 i 2011

Mae rheoliadau 11 i 20 yn gymwys pan fydd asiantaeth fabwysiadu yn ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn.

Gofyniad i ddechrau cofnod achos i blentyn12

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu drefnu cofnod achos o ran y plentyn a rhoi ynddo unrhyw wybodaeth a gafwyd ac unrhyw adroddiad, argymhelliad neu benderfyniad a wnaed yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

2

Os yw'r plentyn—

a

yn derbyn gofal; neu

b

yn cael llety o dan adran 59(1) o Ddeddf 1989 (darparu llety gan gyrff gwirfoddol),

rhaid i'r awdurdod lleol neu, yn ôl y digwydd, y gymdeithas fabwysiadu gofrestredig gael gafael ar unrhyw wybodaeth y mae angen cael gafael arni gan yr asiantaeth yn rhinwedd y Rhan hon, o'r cofnodion a gynhelir mewn cysylltiad â'r plentyn o dan Ddeddf 1989, a rhoi'r wybodaeth honno yn y cofnod achos y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer y plentyn a chanfod ei ddymuniadau a'i deimladau.13

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn—

a

darparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer y plentyn;

b

esbonio i'r plentyn mewn modd priodol y weithdrefn ynglyn â'i fabwysiadu, a goblygiadau cyfreithiol ei fabwysiadu, a rhoi'r wybodaeth ysgrifenedig briodol i'r plentyn ynglyn â'r materion hyn; ac

c

canfod dymuniadau a theimladau'r plentyn o ran—

i

posibilrwydd lleoliad gyda theulu newydd a'i fabwysiadu;

ii

ei fagwraeth grefyddol a diwylliannol; a

iii

cyswllt â'i riant, ei warcheidwad, perthynas neu berson arwyddocaol arall.

Gofyniad i ddarparu cwnsela a gwybodaeth ar gyfer rhiant neu warcheidwad y plentyn neu bobl eraill a chanfod eu dymuniadau a'u teimladau.14

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol —

a

darparu gwasanaeth cwnsela i riant neu warcheidwad y plentyn;

b

esbonio a darparu gwybodaeth ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn ar y materion canlynol—

i

y weithdrefn o ran mabwysiadu a lleoliad ar gyfer mabwysiadu a;

ii

goblygiadau cyfreithiol —

aa

cydsynio i leoliad ar gyfer mabwysiadu o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant);

bb

cydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu);

cc

gorchymyn lleoliad; a

iii

goblygiadau cyfreithiol mabwysiadu; ac

c

canfod dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn neu unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol o ran y canlynol—

i

y materion a nodir yn adran 1(4)(f)(ii) a (iii) o'r Ddeddf (materion y mae'n rhaid i'r asiantaeth eu hystyried);

ii

lleoliad y plentyn ar gyfer mabwysiadu a'i fabwysiadu gan gynnwys unrhyw ddymuniadau a theimladau ynghylch magwraeth grefyddol a diwylliannol y plentyn; a

iii

cyswllt â'r plentyn os awdurdodwyd yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu os mabwysiedir y plentyn.

2

Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan nad oes gan dad plentyn gyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac mae'r asiantaeth yn gwybod pwy yw'r tad.

3

Os yw paragraff (2) yn gymwys a bod yr asiantaeth fabwysiadu wedi'i bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny, rhaid i'r asiantaeth—

a

cyflawni o ran y tad ofynion paragraff (1)(a), (b)(i), a (iii) ac (c) fel pe baent yn gymwys i'r tad, a

b

canfod i'r graddau y mae'n bosibl p'un a yw'r tad—

i

yn dymuno cael cyfrifoldeb rhiant am y plentyn o dan adran 4 o Ddeddf 1989) (caffael cyfrifoldeb rhiant)9; neu

ii

yn bwriadu gwneud cais am orchymyn preswylio neu orchymyn cyswllt ynglyn â'r plentyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (preswyliad, cyswllt a gorchmynion eraill ynglyn â phlant) neu lle y bo plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal, gorchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal).

Gofyniad i gael gwybodaeth am y plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am ei iechyd)15

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am y plentyn a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

a

gwneud trefniadau i'r plentyn gael ei archwilio gan ymarferydd meddygol cofrestredig; a

b

cael adroddiad ysgrifenedig gan yr ymarferydd hwnnw ar gyflwr iechyd y plentyn a rhaid iddo gynnwys unrhyw driniaeth y mae'r plentyn yn ei chael, anghenion y plentyn am ofal iechyd a'r materion a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1,

oni chafodd yr asiantaeth gyngor gan y cynghorydd meddygol nad oes angen yr archwiliad a'r adroddiad hwnnw.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud trefniadau —

a

bod archwiliadau meddygol a seiciatryddol eraill, a phrofion eraill, yn cael eu cyflawni ar y plentyn yn ôl argymhelliad cynghorydd meddygol yr asiantaeth; a

b

cael gafael ar adroddiadau ysgrifenedig o'r archwiliadau a'r profion hynny.

4

Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys os yw'r plentyn yn deall digon i wneud penderfyniad seiliedig ar wybodaeth ac yn gwrthod cael archwiliadau neu brofion eraill.

Gofyniad i gael gwybodaeth am deulu'r plentyn (gan gynnwys gwybodaeth am iechyd y teulu)16

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am deulu'r plentyn a bennir yn Rhannau 3 a 4 o Atodlen 1.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael gafael ar yr wybodaeth am iechyd pob un o rieni a brodyr a chwiorydd naturiol y plentyn a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 1.

Gofyniad i baratoi adroddiad ysgrifenedig ar gyfer y panel mabwysiadu17

1

Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn ystyried yn ngoleuni'r holl wybodaeth a gafwyd yn rhinwedd rheoliadau 12 i 16 mai mabwysiadu yw'r dewis gorau er mwyn sefydlogrwydd ar gyfer y plentyn, rhaid i'r asiantaeth baratoi adroddiad ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys —

a

yr wybodaeth am y plentyn a theulu'r plentyn a bennir yn Rhannau 1, 3 a 4 o Atodlen 1;

b

crynodeb, a ysgrifenwyd gan gynghorydd meddygol yr asiantaeth, o gyflwr iechyd y plentyn, hanes ei iechyd ac unrhyw angen am ofal iechyd a all godi yn y dyfodol;

c

dymuniadau a theimladau'r plentyn ynglyn â'r materion a nodir yn rheoliad 13(1)(c);

ch

dymuniadau a theimladau rhiant neu warcheidwad y plentyn, a phan fo rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn, ac unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol, ynghylch y materion a nodir yn rheoliad 14(1)(c);

d

barn yr asiantaeth fabwysiadu am angen y plentyn o ran cyswllt â'i riant neu ei warcheidwad neu berthynas arall neu ag unrhyw berson arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei fod yn berthnasol (gan gynnwys tad y plentyn pan fo rheoliad 14(2) yn gymwys) a'r trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud i ganiatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;

dd

asesiad o ddatblygiad emosiynol y plentyn a datblygiad ei ymddygiad ac unrhyw anghenion cysylltiedig;

e

asesiad o gynneddf rhiant neu warcheidwad y plentyn i fod yn rhiant, ac os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, ei dad;

f

cronoleg o'r penderfyniadau a'r camau a gymerwyd gan yr asiantaeth ynglyn â'r plentyn;

ff

dadansoddiad o'r opsiynau am ofal y plentyn yn y dyfodol a gafodd eu hystyried gan yr asiantaeth a pham yr ystyrir mai lleoliad ar gyfer mabwysiadu yw'r dewis gorau; a

g

unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r asiantaeth yn ystyried ei bod yn berthnasol.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd â'r adroddiadau eraill y mae eu hangen yn rhinwedd rheoliad 15 a 16 at y panel mabwysiadu.

3

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, y gall y panel mabwysiadu ofyn amdani ac anfon yr wybodaeth honno at y panel.

Swyddogaeth y panel mabwysiadu o ran plentyn a atgyfeirir gan yr asiantaeth fabwysiadu18

1

Rhaid i'r panel mabwysiadu ystyried achos pob plentyn a gaiff ei atgyfeirio ato gan yr asiantaeth fabwysiadu a gwneud argymhelliad i'r asiantaeth honno ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

2

Wrth ystyried pa argymhelliad i'w wneud, rhaid i'r panel mabwysiadu roi sylw i'r dyletswyddau a osodwyd ar yr asiantaeth fabwysiadu o dan adran 1(2), (4), (5) a (6) o'r Ddeddf (ystyriaethau sy'n gymwys wrth arfer pwerau o ran mabwysiadu plentyn) a —

a

rhaid iddo bwyso a mesur a chymryd i ystyriaeth yr holl wybodaeth a'r adroddiadau a ddaeth iddo yn unol â rheoliad 17;

b

caiff ofyn i'r asiantaeth gael gafael ar unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn ystyried ei bod yn angenrheidiol;

c

rhaid iddo gael cyngor cyfreithiol yr ystyria sy'n angenrheidiol o ran yr achos.

3

Pan fo'r panel mabwysiadu yn gwneud argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu y dylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu rhaid iddo ystyried a chaiff ar yr un pryd roi cyngor i'r asiantaeth ynghylch —

a

y trefniadau y mae'r asiantaeth yn bwriadu eu gwneud er mwyn caniatáu cyswllt â'r plentyn i unrhyw berson;

b

os yw'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol, a ddylid gwneud cais am orchymyn lleoliad ynglyn â'r plentyn.

Penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu19

1

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu —

a

ystyried argymhelliad y panel mabwysiadu;

b

ystyried unrhyw gyngor a roddir gan y panel mabwysiadu yn unol â rheoliad 18(3); ac

c

rhoi sylw i'r ystyriaeth a nodir yn adran 1(2) o'r Ddeddf

wrth benderfynu a ddylid lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

2

Nid oes unrhyw aelod o'r panel mabwysiadu i gymryd rhan yn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr asiantaeth fabwysiadu o dan baragraff (1).

3

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu, os yw eu cyfeiriad yn hysbys i'r asiantaeth, hysbysu ei phenderfyniad yn ysgrifenedig a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu neu unrhyw benderfyniad ynglyn â threfniadau cyswllt i—

a

rhiant neu warcheidwad y plentyn;

b

unrhyw berthynas neu berson arwyddocaol arall yr ymgynghorodd yr asiantaeth ag ef o dan reoliad 14(1) gan gynnwys unrhyw berson y gall fod gorchymyn cyswllt ganddo o dan adran 8 o Ddeddf 1989 neu orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant â phlant mewn gofal) mewn grym yn union cyn yr awdurdodir yr asiantaeth i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu; ac

c

os yw rheoliad 14(2) yn gymwys, tad y plentyn; ac

ch

rhaid i'r asiantaeth esbonio ei phenderfyniad i'r plentyn mewn modd priodol ac yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn.

4

Oni wnaed cais y gellid gwneud gorchymyn gofal o ran y plentyn, nas penderfynwyd arno, neu os yw'r plentyn yn llai na 6 wythnos oed, rhaid i'r asiantaeth ganfod a yw rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod—

a

i gydsynio o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) i'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gyda darpar fabwysiadwyr a enwir yn y cydsyniad neu iddo gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gydag unrhyw ddarpar fabwysiadwyr y caiff yr asiantaeth eu dewis; a

b

ar yr un adeg i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsynio ymlaen llaw i fabwysiadu).

5

Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf, rhaid i'r asiantaeth esbonio a chadarnhau yn ysgrifenedig i riant neu warcheidwad y plentyn —

a

y gellir tynnu unrhyw gydsyniad a roddir o dan adran 20 o'r Ddeddf yn ôl ond bydd y tynnu'n ôl hwnnw yn aneffeithiol os gwneir hynny ar ôl i gais am orchymyn mabwysiadu gael ei wneud;

b

drwy roi hysbysiad i'r asiantaeth caiff, ar yr adeg honno neu rywbryd wedyn, ddatgan nad yw'n dymuno cael ei hysbysu o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu; ac

c

caniateir tynnu'r cyfryw ddatganiad yn ôl.

Cais i benodi swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS20

1

Pan fydd rhiant neu warcheidwad y plentyn yn barod i gydsynio i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o'r Ddeddf (lleoli plant gyda chydsyniad rhiant) ac, yn ôl y digwydd, yn barod i gydsynio i wneud gorchymyn mabwysiadu yn y dyfodol o dan adran 20 o'r Ddeddf (cydsyniad ymlaen llaw i fabwysiadu), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol benodi un o'i swyddogion achosion teuluol ar gyfer Cymru10 neu, pan fydd y plentyn yn arferol yn preswylio yn Lloegr, ofyn i CAFCASS benodi un o'i swyddogion er mwyn iddo gymeradwyo'r cydsyniad i'r lleoli neu i'r mabwysiadu ac, wrth ofyn, anfon hefyd yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

2

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu o ran y plentyn gadw'r canlynol yn y cofnod achos a gynhelir yn unol â rheoliad 12 —

a

y ffurflen gydsynio wedi'i llofnodi'n briodol gan y rhiant neu'r gwarcheidwad a swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS yn dyst i hynny;

b

unrhyw hysbysiad a roddir i'r asiantaeth o dan adran 20(4)(a) o'r Ddeddf (datganiad na ddymunir cael hysbysiad o unrhyw gais am orchymyn mabwysiadu); ac

c

hysbysiad tynnu'n ôl unrhyw gydsyniad neu ddatganiad a roddwyd o dan adrannau 19 neu 20 o'r Ddeddf.