- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “achos adran 83” (“section 83 case”) yw achos lle bo person yn bwriadu dod â phlentyn, neu'n peri bod rhywun arall yn dod â phlentyn, i'r Deyrnas Unedig mewn amgylchiadau lle y mae adran 83 o'r Ddeddf (cyfyngiadau ar ddod â phlant i'r Deyrnas Unedig) yn gymwys;
mae i “asiantaeth fabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption agency” yn adran 2(1) o'r Ddeddf;
ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru(1);
ystyr “awdurdod tramor perthnasol” (“relevant foreign authority”) yw person, sydd y tu allan i Ynysoedd Prydain yn cyflawni swyddogaethau yn y wlad lle y mae'r plentyn, neu yn lle y mae'r darpar fabwysiadydd yn preswylio'n arferol, sy'n cyfateb i swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu neu i swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran mabwysiadau ag elfen dramor iddynt;
ystyr “CAFCASS” yw y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd(2);
yn y rheoliadau hyn, mae'r termau “cyflogi” a “chyflogaeth” yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio a boed o dan gontract gwasanaeth, contract ar gyfer gwasanaethau neu mewn modd nad yw o dan gontract;
mae i “cymdeithas fabwysiadu gofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered adoption society” yn adran 2(2) o'r Ddeddf;
mae i “cynghorydd asiantaeth” (“agency adviser”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 8;
ystyr “cynghorydd meddygol” (“medical adviser”) yw'r person a benodwyd yn gynghorydd meddygol gan yr asiantaeth fabwysiadu yn unol â rheoliad 9;
mae i “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 36(2);
mae i “cynllun lleoliad mabwysiadu” (“adoption placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 36;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn wyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3).
mae i “dyfarniad o gymhwyster” (“qualifying determination”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 28(4)(a);
mae i “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) yr ystyr a roddir yn adran 2(6) o'r Ddeddf ac mewn rheoliadau a wneir o dan adran 2(6)(b) o'r Ddeddf;
Mae i “gwasanaeth mabwysiadu” yr ystyr a roddir i “adoption service” gan adran 2(1) o'r Ddeddf;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person a gofrestrwyd mewn cofrestr a gynhelir gan Gyngor Gofal Cymru neu'r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(4) neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “hysbysu” (“notify”) yw hysbysu yn ysgrifenedig;
mae i “lleoliad arfaethedig” (“proposed placement”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 32(1);
ystyr “panel adolygu annibynnol” (“independent review panel”) yw panel a ffurfiwyd o dan adran 12 o'r Ddeddf;
ystyr “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3;
ystyr “panel mabwysiadu ar y cyd” (“joint adoption panel”) yw panel a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3(5);
mae i “person annibynnol” (“independent person”) o ran panel mabwysiadu yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3;
ystyr “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yw unrhyw riant sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn o dan Ddeddf 1989.
mae i “swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” yn adran 35(4) o Ddeddf Plant 2004(5)); ac
mae i “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol” yr ystyr a roddir i “social services functions” yn adran 1A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970.
Gweler adran 5 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).
Gweler adran 11 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 p.43.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: