Rheoliadau Ardaloedd Gwella Busnes (Cymru) 2005

Cael gafael ar wybodaeth gan awdurdod bilio at ddiben datblygu cynigion AGB

2.—(1Pan fydd yr awdurdod bilio perthnasol yn derbyn cais (wedi'i wneud yn unol â pharagraff (2)) gan unrhyw berson sy'n datblygu cynigion AGB, rhaid i'r awdurdod —

(a)paratoi dogfen yn dangos (cyn belled ag y gall yr awdurdod bilio perthnasol ganfod o'i gofnodion bilio ardrethi annomestig ar y pryd) enw pob trethdalwr annomestig a chyfeiriad a gwerth ardrethol pob hereditament a feddiannir, neu (os na feddiannir) a berchenogir ganddo yn ardal ddaearyddol yr AGB arfaethedig; a

(b)darparu copi o'r wybodaeth yn y ddogfen i'r person perthnasol ar ffurf data.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1) —

(a)bod ar ffurf cais ysgrifenedig i'r awdurdod bilio perthnasol;

(b)cadarnhau bod y person sy'n gwneud y cais yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth ond i bwrpas datblygu cynnig yr AGB fel a ddisgrifir yn y cais;

(c)darparu crynodeb o natur cynigion yr AGB sydd i'w datblygu;

(ch)darparu disgrifiad o'r ardal ddaearyddol ar gyfer yr AGB arfaethedig; a

(d)cynnwys y ffi (os oes un) a godir gan yr awdurdod bilio perthnasol o dan baragraff (4).

(3Ni chaiff unrhyw berson —

(a)ddatgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1);

(b)gwneud defnydd o wybodaeth o'r fath,

heblaw at ddiben datblygu cynigion yr AGB fel a ddisgrifir yn y cais a wneir o dan baragraff (1).

(4Caiff yr awdurdod bilio perthnasol godi tâl ar y person sy'n gwneud y cais am wybodaeth am ddelio gyda'r cais ac am ddarparu'r wybodaeth o dan y rheoliad hwn.

(5Rhaid i'r awdurdod bilio perthnasol sicrhau bod swm y tâl a godir ganddo o dan baragraff (4) yn rhesymol o ystyried y costau a achosir neu sy'n debygol o gael eu hachosi gan yr awdurdod wrth ddelio gyda cheisiadau a darparu gwybodaeth o dan y rheoliad hwn.