xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004 (OJ Rhif L97, 1.4.2004, t.44) ynghylch labelu bwydydd a chynhwysion bwyd â ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau a/neu esterau ffytostanol ychwanegol. Mae'r Rheoliad hwnnw yn ei gwneud yn ofynnol labelu'r bwydydd a'r cynhwysion bwyd hynny â gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys y geiriau “with added plant sterols/plant stanols”.

Gwnaed Rheoliad 608/2004 yn unol â Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29) ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynghylch labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd (“y Gyfarwyddeb”). O ganlyniad, y cynhyrchion y mae Rheoliad 608/2004 yn ymwneud â hwy yw bwydydd a chynhwysion bwyd sydd i'w cyflenwi felly i'r defnyddiwr olaf neu rai y bwriedir eu cyflenwi i fasarlwywyr. Yn rhinwedd Erthygl 13(4) o'r Gyfarwyddeb, mae pecynnau bach penodol a photeli gwydr penodol sydd wedi'u marcio'n annileadwy yn esempt rhag gofynion labelu Rheoliad 608/2004. Mae darpariaeth drosiannol yn Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw.

Yn unol ag Erthyglau 14 a 15 o'r Gyfarwyddeb, mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys esemptiad rhag yr angen i gael eu labelu â rhai o'r manylion sy'n ofynnol gan Reoliad 608/2004 yn achos bwyd na chafodd ei ragbacio, rhai bwydydd tebyg a chynhyrchion cyffaith ffansi (rheoliad 4).

Yn unol ag Erthyglau 13(1) a (2) a 14 o'r Gyfarwyddeb, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y dull labelu yn achos y manylion sy'n ofynnol (rheoliadau 5 i 7).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd —

(a)yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 3) ac yn pennu awdurdodau gorfodi (rheoliad 8);

(b)yn darparu amddiffyniad o ran allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t. 23) ar reoli bwydydd yn swyddogol, fel y cânt eu darllen gyda'r nawfed croniclad i'r Gyfarwyddeb honno (rheoliad 9);

(c)yn ymgorffori darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 10).

Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ynghyd â Nodyn Trosi). Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.