2004 Rhif 910 (Cy.93) (C.39)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 105 o Ddeddf Dŵ r 20031 (“y Ddeddf”), ar ôl ymghynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chychwyn adran 67 o'r Ddeddf, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi1.

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dŵr 2003 (Cychwyn) (Cymru) 2004.

Y Diwrnod Penodedig2.

(1)

1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym —

(a)

adran 67 o'r Ddeddf (aelodaeth o bwyllgorau rhanbarthol atal llifogydd yng Nghymru);

(b)

adran 69 o'r Ddeddf (grantiau ar gyfer gwaith draenio a systemau rhybudd rhag llifogydd);

(c)

paragraff 42 o Atodlen 7 i'r Ddeddf (mân ddiwygiadau canlyniadol) ac adran 101(1) o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef;

(ch)

Atodlen 9 i'r Ddeddf (diddymiadau a dirymu), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 222(1) o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 19912 ac adran 101(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 19953; a

(d)

adran 75 o'r Ddeddf (estyn pwerau wrth gefn awdurdod gorfodi).

(2)

Caiff y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(b) i (d) eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru'n unig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adran 67 o Ddeddf Dŵ r 2003; adrannau 69 a 75 o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru; a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i rym.

Mae adran 67 o'r Ddeddf yn mewnosod adrannau 16A a 16B newydd yn Neddf yr Amgylchedd 1995. Mae adran 16A newydd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy orchymyn a wnaed drwy gyfrwng offeryn statudol, i wneud darpariaeth, yn ddarostyngedig i amodau, i bennu cyfanswm nifer yr aelodau, a'r dull o ddewis a phenodi cadeirydd ac aelodau eraill o bwyllgorau rhanbarthol atal llifogydd Cymreig, ac i wneud darpariaeth ar gyfer y cyfryw ddibenion atodol ag sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adran 69 yn diddymu adrannau 147 i 149 o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991 er mwyn dileu unrhyw anheuaeth y gellir talu grantiau draenio tir a rhybudd rhag llifogydd i'r Asiantaeth o dan adran 47 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

Mae Adran 75 yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵ r 1975 i estyn pwerau wrth gefn yr awdurdod gorfodi os na fydd ymgymerwr cronfa ddŵ r yn cydymffurfio â rhai gofynion.