Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adran 67 o Ddeddf Dŵ r 2003; adrannau 69 a 75 o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru; a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau i rym.

Mae adran 67 o'r Ddeddf yn mewnosod adrannau 16A a 16B newydd yn Neddf yr Amgylchedd 1995. Mae adran 16A newydd yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy orchymyn a wnaed drwy gyfrwng offeryn statudol, i wneud darpariaeth, yn ddarostyngedig i amodau, i bennu cyfanswm nifer yr aelodau, a'r dull o ddewis a phenodi cadeirydd ac aelodau eraill o bwyllgorau rhanbarthol atal llifogydd Cymreig, ac i wneud darpariaeth ar gyfer y cyfryw ddibenion atodol ag sy'n briodol ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adran 69 yn diddymu adrannau 147 i 149 o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991 er mwyn dileu unrhyw anheuaeth y gellir talu grantiau draenio tir a rhybudd rhag llifogydd i'r Asiantaeth o dan adran 47 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

Mae Adran 75 yn diwygio Deddf Cronfeydd Dŵ r 1975 i estyn pwerau wrth gefn yr awdurdod gorfodi os na fydd ymgymerwr cronfa ddŵ r yn cydymffurfio â rhai gofynion.