xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 803 (Cy.83)

LLYFRGELLOEDD, CYMRU

Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004

Wedi'i wneud

17 Mawrth 2004

Yn dod i rym

1 Ebrill 2004

Mae adran 28(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) (“Deddf 1998”), a Rhan I o Atodlen 4 iddi, yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i drosglwyddo iddo ef ei hun swyddogaethau statudol y Cyngor a sefydlwyd i Gymru o dan adran 2 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964(2).

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod swyddogaethau statudol y Cyngor, sef swyddogaethau cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar y materion hynny sy'n gysylltiedig â darparu neu ddefnyddio cyfleusterau llyfrgelloedd boed o dan Ddeddf 1964 neu fel arall ac ar unrhyw gwestiynau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfeirio at y Cyngor, yn swyddogaethau sy'n gofyn am i gyngor gael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, ac felly yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, trwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan 1 o Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru a Diwygiadau Canlyniadol 2004.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2004.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

(4Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 1964” (“the 1964 Act”) yw Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964:

ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw'r Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd a sefydlwyd ar gyfer Cymru a Sir Fynwy o dan adran 2 o Ddeddf 1964, a adnabyddir fel Cyngor Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (Cymru); ac

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diddymu'r Cyngor

2.—(1Diddymir y Cyngor a'i swyddogaethau.

(2Trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yr holl eiddo a hawliau y mae gan y Cyngor hawl iddynt ac unrhyw rwymedigaethau sydd ar y Cyngor.

Diwygiadau Canlyniadol

3.—(1Diwygir adran 2 o Ddeddf 1964 fel a ganlyn:

(a)yn lle is-adran (1) rhowch —

(1) There shall be a Library Advisory Council for England and it shall be the duty of the Council to advise the Secretary of State upon such matters connected with the provision or use of library facilities whether under this Act or otherwise as it thinks fit, and upon any questions referred to it by him.;

(b)Yn is-adran (2) yn lle “each” rhowch “the” (yn y ddau fan);

(c)Yn is-adran (3) yn lle “Each” rhowch “The”;

(ch)Yn is-adran (4) yn lle “either” rhowch “the”;

(d)Yn is-adran (5) yn lle “Each” rhowch “The” ac yn lle “a ” rhowch “the ”.

(2Yn Rhan 2 o Atodlen 1A o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976(3), diddymir y cyfeiriad at “Library and Information Services Council (Wales)”.

(3Yn Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(4), diddymir y cyfeiriad at “Library and Information Services Council (Wales)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mawrth 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Cyngor Ymgynghorol Llyfrgelloedd Cymru (a adnabyddir fel 'Cyngor Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Hysbysrwydd (Cymru)'), ac mae'n trosglwyddo ei holl eiddo a hawliau ac unrhyw rwymedigaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgîl ddiddymu'r Cyngor.

(2)

1964 p. 75. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

1976 p. 74. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan adran 2(2) o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 (p.34), ac Atodlen 1 iddi, a ddiwygwyd gan Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Cyffredinol) 2001 (O.S. 2001/3457), erthygl 2(d), a'r Atodlen iddi.