2004 Rhif 785 (Cy.82)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921, paragraffau 1 a 4(2) o Atodlen 2 iddi, a pharagraffau 1, 3, 5, 11A a 12A o Atodlen 4 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2, a thrwy ddibynnu ar y pwerau a roddwyd yn uniongyrchol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 113(4) o'r Ddeddf honno a chan baragraff 20(b) o Atodlen 4 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

3

Daw'r rheoliadau hyn i rym ar 18 Mawrth 2004.

Diwygio Rheoliadau2

1

Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 19923 yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn, a dehongli3

Yn rheoliad 1(2), ar ôl y diffiniad o “demand notice regulations”, mewnosoder y diffiniadau canlynol4

  • “discount” means a discount under section 11 or section 12 of the Act, or a reduction in the amount of council tax payable for a dwelling under section 13A of the Act where the dwelling falls into a class for which the billing authority has determined under section 13A(3) that liability shall be reduced otherwise than to nil;

  • “exempt dwelling” means a dwelling which is exempt from council tax under the Exempt Dwellings Order or a dwelling which falls into a class for which the billing authority has determined under section 13A(3) of the Act that the amount of council tax payable shall be reduced to nil.

Darganfod a oes hawl i gael disgownt a swm y disgownt hwnnw4

Yn lle rheoliad 14 rhodder—

14

Before making any calculation for the purposes of Part V of these Regulations of the chargeable amount in respect of any dwelling in its area, a billing authority shall take reasonable steps to ascertain whether that amount is subject to a discount, and if so, the amount of that discount.

Gorchmynion dyled5

1

Yn rheoliad 32(1), yn y diffiniad o “liability order” ar ôl “regulation 34” mewnosoder “or regulation 36A(5)”.

2

Ar ôl rheoliad 36 mewnosoder y rheoliad canlynol5

Quashing and substitution of liability orders36A

1

Where—

a

a magistrates' court has made a liability order pursuant to regulation 34(6); and

b

the authority on whose application the liability order was made considers that the order should not have been made,

the authority may apply to a magistrates' court to have the liability order quashed.

2

Where, on an application by an authority in accordance with paragraph (1) above, the magistrates' court is satisfied that the liability order should not have been made, it shall quash the order.

3

Where an authority makes an application under paragraph (1) for a liability order (“the original order”) to be quashed, and a lesser amount than the amount for which the original order was made has fallen due under paragraph (3) or (4) of regulation 23 (including those paragraphs as applied as mentioned in regulation 28A(2)) and is wholly or partly unpaid or (in a case where a final notice is required under regulation 33) the amount stated in the final notice is wholly or partly unpaid at the expiry of the period of seven days beginning with the day on which the notice was issued, the billing authority may also apply to the magistrates' court for an order against the person by whom the lesser amount was payable.

4

Paragraphs (2) to (5) of regulation 34 shall apply to applications under paragraph (3) above.

5

Where, having quashed a liability order in accordance with paragraph (2) above, the magistrates' court is satisfied that, had the original application for the liability order been for a liability order in respect of a lesser sum payable, such an order could properly have been made, it shall make a liability order in respect of the aggregate of—

a

that lesser sum payable; and

b

any sum included in the quashed order in respect of the costs reasonably incurred by the authority in obtaining the quashed order.

Gwneud gorchymyn atafaelu enillion6

Yn rheoliad 37—

a

ym mharagraff (1) yn lle “any outstanding sum which is or forms part of the amount in respect of which the liability order was made” rhodder “the appropriate amount”6;

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder —

1A

For the purposes of this regulation the appropriate amount is the aggregate of —

a

any outstanding sum which is or forms part of the amount in respect of which the liability order was made; and

b

where the authority concerned has sought to levy an amount by distress and sale of the debtor’s goods under regulation 45 and the person making the distress has reported that he was unable (for whatever reason) to find any or sufficient goods of the debtor on which to levy the amount —

i

a sum determined in accordance with Schedule 5 in respect of charges connected with the distress, and

ii

if the authority has applied for the issue of a warrant committing the debtor to prison in accordance with regulation 47, the authority’s reasonable costs incurred up to the time of the making of the order under regulation 37, in making one or more of the applications referred to in Schedule 6, but not exceeding the amount specified for that application in Schedule 6.

Gorchmynion codi tâl7

Yn rheoliad 50—

a

yn lle paragraff (1) rhodder—

1

An application to the appropriate court may be made under this regulation where—

a

a magistrates' court has made one or more liability orders pursuant to either regulation 34(6) or 36A(5);

b

the amount mentioned in regulation 34(7)(a) or 36A(5)(a) in respect of which the liability order was made, or, where more than one liability order was made, the aggregate of the amounts mentioned in regulation 34(7)(a) or 36A(5)(a) in respect of which each such liability order was made, is an amount the debtor is liable to pay under Part V; and

c

at the time that the application under this regulation is made at least £1000 of the amount in respect of which the liability order was made, or, where more than one liability order was made, the aggregate of the amounts in respect of which those liability orders were made, remains outstanding.

b

yn lle paragraff (3) rhodder—

3

For the purposes of paragraph (2)—

a

the authority concerned is the authority which applied for the one or more liability orders referred to in paragraph (1)(a);

b

the relevant dwelling is the dwelling in respect of which, at the time the application for the liability order was made, or, where more than one liability

order was made, at the time the applications for the liability orders were made, the debtor was liable to pay council tax;

c

the due amount is the aggregate of—

i

an amount equal to any outstanding sum which is or forms part of the amount in respect of which the one or more liability orders were made, and

ii

a sum of an amount equal to the costs reasonably incurred by the applicant in obtaining the charging order;

d

the appropriate court is the county court for the area in which the relevant dwelling is situated.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Atodlenni 2 a 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn rhoi pwerau amrywiol i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn perthynas â gweinyddu a gorfodi'r dreth gyngor. Y prif reoliadau a wnaed o dan y pwerau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) (“y prif reoliadau”).

I'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Diwygiodd Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (“Deddf 2003”) y pwerau hyn, ynghyd â darpariaethau eraill Deddf 1992 sy'n ymwneud â gweinyddu a gorfodi'r dreth gyngor.

O ganlyniad i'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf 2003, a chan ddibynnu ar y pwerau yn Atodlen 2 a 4 i Ddeddf 1992, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn i ddiwygio ymhellach y prif reoliadau.

Mae Rheoliad 3 o'r rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniadau newydd o “discount” ac “exempt dwelling” yn rheoliad 1(2) o'r prif reoliadau. Bydd y newid hwn, ynghyd â'r newid a wneir gan reoliad 4, yn gwireddu'r bwriad y tu cefn i baragraff 21 o Atodlen 2 i Ddeddf 1992 er mwyn sicrhau bod anheddau sy'n perthyn i ddosbarth y mae awdurdod yng Nghymru wedi penderfynu ar ei gyfer o dan adran 13A o Ddeddf 1992 y caiff swm y dreth gyngor sy'n daladwy ei leihau i ddim neu i rywbeth heblaw dim (yn ôl y digwydd) yn cael eu trin, yn y drefn honno, fel anheddau esempt neu rai sy'n destun disgownt at ddibenion gweinyddu'r dreth gyngor. Mewnosodwyd adran 13A o Ddeddf 1992 a pharagraff 21 o Atodlen 2 iddi yn y Ddeddf gan adran 76 o Ddeddf 2003 a pharagraff 53(3) o Atodlen 7 iddi yn y drefn honno.

Mae Rheoliad 5(2) yn mewnosod rheoliad 36A newydd yn y prif reoliadau er mwyn caniatáu i lys ynadon, ar gais awdurdod bilio, ddileu gorchymyn dyled y dreth gyngor, lle mae'r llys wedi'i fodloni na ddylai'r gorchymyn fod wedi'i wneud. Mae Rheoliad 36A(3) yn caniatáu i awdurdod sy'n gwneud cais i ddileu gorchymyn dyled wneud cais hefyd i'r llys am orchymyn pellach yn erbyn yr un person lle mae swm llai na'r swm y gwnaed y gorchymyn gwreiddiol ar ei gyfer wedi dod yn ddyledus yn y cyfamser. Bydd Rheoliad 36A(5) yn caniatáu i'r llys ynadon roi swm llai yn lle'r swm yn y gorchymyn dyled gwreiddiol lle mae o'r farn y gallai gorchymyn dyled am swm llai o'r fath fod wedi'i wneud yn briodol. Mae Rheoliad 36A(4) yn golygu y bydd gofynion paragraffau (2) i (5) o reoliad 34 hefyd yn gymwys i gais am orchymyn dyled sydd wedi'i amnewid. Mae'r darpariaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno gwŷs i'r dyledwr cyn y gellir gwneud gorchymyn o'r fath. Os bydd y swm sydd heb ei dalu a chostau rhesymol yr awdurdod o'r cais yn cael eu cyflwyno cyn i'r cais gael ei wrando, maent hefyd yn darparu na fydd y cais yn mynd yn ei flaen.

Mae Rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 37 o'r prif Reoliadau er mwyn caniatáu i'r swm y gwneir gorchymyn atafaelu enillion mewn perhynas ag ef gynnwys, yn ddarostyngedig i rai terfynau, unrhyw gostau a dynnir gan yr awdurdod mewn ymgais aflwyddiannus i atafaelu nwyddau er mwyn sicrhau bod swm heb ei dalu y gwnaed gorchymyn dyled mewn perthynas ag ef yn cael ei dalu. Diwygir Rheoliad 37 ymhellach er mwyn caniatáu i'r swm hwnnw gynnwys hefyd, yn ddarostyngedig i rai terfynau, unrhyw gostau a dynnir gan awdurdod mewn cais ofer am warant i draddodi'r dyledwr i garchar. Ni chaiff awdurdod wneud cais i'r llys ynadon am warant i draddodi'r dyledwr i garchar o dan reoliad 47 ond ar ôl cais aflwyddiannus i atafaelu nwyddau (lle nad oedd y person a oedd yn gwneud yr atafaelu yn gallu dod o hyd i unrhyw rai o nwyddau'r dyledwr neu nwyddau digonol i godi'r swm arnynt). Gan fod rhaid i'r llys ynadon ofyn beth yw moddion y dyledwr wrth ystyried a yw am roi traddodeb, efallai na ddaw moddion y dyledwr yn hysbys i'r awdurdod mor hwyr a hyn, ac yn lle mynd ar drywydd y cais am draddodeb ymhellach gallai'r awdurdod benderfynu gwneud gorchymyn atafaelu enillion yn lle hynny.

Mae Rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 50 o'r prif reoliadau. Mae Rheoliad 50 yn caniatáu i orchymyn codi tâl gael ei wneud ynghylch y fangre y mae'r dreth gyngor yn dal heb ei thalu mewn perthynas â hi. Dim ond lle mae mwy na £1000 yn dal heb ei dalu y gellir gwneud gorchymyn codi tâl. Gynt roedd angen dangos bod mwy na £1000 heb ei dalu o dan un gorchymyn dyled. Mae Rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 50 er mwyn i awdurdodau gyfuno symiau sydd heb eu talu o dan orchmynion dyled ar wahân (pob un ohonynt yn llai na £1000) er mwyn eu galluogi i wneud cais am orchymyn codi tâl, ar yr amod bod y cyfanswm agregedig sydd heb ei dalu yn uwch na £1000.