(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998 er mwyn newid y cyfnod y mae'n rhaid cwblhau adroddiad arolygu ynddo i 35 diwrnod gwaith ym mhob achos, a'r cyfnod y mae'n rhaid paratoi cynllun gweithredu ynddo i 45 diwrnod gwaith ym mhob achos.